Gweithiodd lawer dros Goleg y Brifysgol , Caerdydd , y bu'n is-lywydd iddo. Cymerodd ran amlwg yn y trafodaethau a arweiniodd at sefydlu Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru (yn ddiweddarach Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru ) yn sefydliad annibynnol. Ar y cychwyn yr oedd yn gadarn yn erbyn gwahanu'r Ysgol Feddygol a Choleg y Brifysgol , ond pan ddigwyddodd hynny rhoddodd gefnogaeth lwyr i'r fenter newydd. Gwasanaethodd gydag anrhydedd mewn amrywiol ffyrdd ar lawer o gyrff cyhoeddus a rhai proffesiynol yng Nghymru , megis Bwrdd Rhanbarthol Ysbytai Cymru , y Gymdeithas Feddygol Brydeinig a Brigâd Ambiwlans S. Ioan - yr oedd yn Knight of Grace Urdd S. Ioan . Hefyd, cadwodd gysylltiad agos ag Undeb Rygbi Cymru am 45 ml., ac ef oedd y llywydd pan fu farw.
Penodwyd Rocyn-Jones , a fu'n ynad y sir am lawer o flynyddoedd, yn Ddirprwy-Lifftenant sir Fynwy yn 1947 . Urddwyd ef yn farchog y flwyddyn ddilynol; gwnaethpwyd ef yn C.B.E. yn 1920 . Yr oedd yn Annibynnwr pybyr, a cheisiodd trwy gydol ei fywyd gryfhau'r cysylltiad rhwng ei sir enedigol a siroedd eraill de Cymru . Ystyrid ef bob amser yn dipyn o gymeriad.
Yn 1901 pr. Alla (bu f. 1950 ), merch S.N. Jones , Abertyleri . Aeth dau o'u pedwar mab yn feddygon ; dilynodd Gwyn ei dad fel swyddog iechyd meddygol y sir , a daeth Nathan , yn addas iawn o ystyried cefndir y teulu fel meddygon esgyrn , yn llawfeddyg orthopaedig yng Nghaerdydd . Lladdwyd mab arall yn yr Eidal tua diwedd Rhyfel Byd II . Bu f. 30 Ebr. 1953 .
Emyr Wyn Jones, M.D., F.R.C.P., (1907-99), Pwllheli / Lerpwl