ROCH, WALTER FRANCIS (1880 - 1965), gwleidydd a thirfeddiannwr

Enw: Walter Francis Roch
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1965
Priod: Fflorens Mary Ursula Roch (née Herbert)
Rhiant: Emily Catherine Roch (née Powell)
Rhiant: William Francis Roch
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd a thirfeddiannwr
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 20 Ionawr 1880 yn ail fab i William Francis Roch, Y.H., Butter Hill, Penfro (bu farw 1889) ac Emily Catherine (bu farw 1938), ail ferch Walter R.H. Powell, Maesgwynne, Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, yr aelod seneddol (Rh.) dros sir Gaerfyrddin, 1880-85, a Gorllewin y sir, 1885-89. Addysgwyd ef yn Harrow. Yn 1908, ac yntau'n 28 oed, cafodd ei ethol yn aelod seneddol (Rh.) dros sir Benfro, a pharhaodd i gynrychioli'r etholaeth yn y senedd hyd 1918. Daeth yn fargyfreithiwr yn y Middle Temple yn 1913. Er mai ar y meinciau cefn yr arhosodd, yr oedd yn aelod amlwg o'r llywodraethau Rhyddfrydol, a dewiswyd ef yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar ymgyrch y Dardanelles yn 1917. Sonnid amdano fel prif weinidog posibl yn y dyfodol, ond dewisodd gefnogi Asquith yn hytrach na Lloyd George, a dyna ddiwedd ar ei yrfa wleidyddol. Ef oedd awdur Mr. Lloyd George and the war (1920). Yn 1934 cafodd ei benodi'n ynad heddwch dros sir Fynwy.

Priododd yn 1911 yr Anrhydeddus Fflorens Mary Ursula Herbert, unig ferch Syr Ivor Herbert, A.S. dros dde sir Fynwy, 1906-17, a'r cyntaf a'r olaf i gael y teitl Barwn Treowen. Treuliodd Roch a'i briod 25 mlynedd olaf ei fywyd yn Nhŷ'r Nant, Llan-arth, Raglan, Mynwy, yn llywyddu dros eu hystadau yn Llan-arth a Llanofer. Bu farw 3 Mai 1965.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.