ROBINSON, THEODORE HENRY (1881 - 1964) Athro, ysgolhaig ac awdur

Enw: Theodore Henry Robinson
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1964
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro, ysgolhaig ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Gwilym Henry Jones

Ganwyd 9 Awst 1881 yn Edenbridge, swydd Caint, yn fab i W. Venis Robinson, gweinidog (B), a'i briod Emily Jane. Cafodd ei addysg yn ysgol Mill Hill; Coleg S. Ioan, Caergrawnt; Coleg y Bedyddwyr, Regent's Park, Llundain; a Phrifysgol Göttingen. Yr oedd yn Litt.D. o Brifysgol Caergrawnt ac yn D.D. o Brifysgol Llundain. Bu am gyfnod yn Athro Hebraeg a Syrieg yng Ngholeg Serampore, Bengal.

Daeth i Gymru yn 1915, yn ddarlithydd mewn ieithoedd Semitig yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd; fe'i gwnaed yn Athro yng Nghaerdydd yn 1927 a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1944. Bu'n Ddeon Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru, 1937-40. Cafodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys ei ddewis yn ddarlithydd Schweich (1926), ei wneud yn D.D. er anrhydedd gan Brifysgolion Aberdeen a Chymru ac yn D.Theol. gan Brifysgol Halle-Wittemberg, a derbyn medal Burkitt am Astudiaethau Beiblaidd gan yr Academi Brydeinig.

Gwnaeth enw iddo'i hun fel awdur nifer o lyfrau safonol a hollol angenrheidiol ym maes efrydu'r Hen Destament; yn eu plith y mae Prophecy and the prophets in the Old Testament (1923), The decline and fall of the Hebrew kingdoms (1926), Hebrew religion (1930) ac A history of Israel (1932), y ddau olaf gyda W.O.E. Oesterley. Cyhoeddodd nifer o lyfrau hefyd ar yr ieithoedd Hebraeg a Syrieg.

Ei gyfraniad sylweddol arall oedd ei lafur enfawr dros Gymdeithas Efrydu'r Hen Destament; bu'n ysgrifennydd iddi am gyfnod maith (1917-46) ac yn llywydd ddwywaith (yn 1928 ac 1946). Priododd Marie Helen Joseph 6 Medi 1906. Ar ôl ymddeol aeth i fyw i Ealing, a bu farw 26 Mehefin 1964.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.