Y mae'n anodd mesur effaith a dylanwad y Diwygiad . Ychwanegwyd lluoedd mawr at aelodaeth yr eglwysi ym mhobman, a chodwyd to newydd o arweinwyr a gweinidogion yn yr eglwysi. Ymledodd y deffroad i rannau eraill o Brydain , ac i'r meysydd cenhadol hwythau. Bu rhwygiadau mewn rhai cylchoedd, ac un o'r canlyniadau oedd ffurfio cyrff crefyddol newydd, megis yr Eglwys Apostolaidd , mudiad ‘four-square’ Elim , ac achosion Pentecostaidd . Parhaodd y dylanwadau'n hir mewn rhai cylchoedd, er i Ryfel Byd I lesteirio hynny a'i ddiffodd i ryw raddau. Gellir olrhain rhai o'r dylanwadau hyd at fudiadau carismatig ein dyddiau ni. Cred rhai hefyd i'r Diwygiad ddylanwadu ar dwf y mudiad Llafur ieuanc rhwng 1904 ac 1914 .
Yn 1906 , yn ei ludded a'i wendid corfforol, cafodd Evan Roberts ymgeledd yng nghartref Mrs. Jessie Penn-Lewis , yn Leicester , a bu'n byw yn Llundain hefyd am ysbaid. Aeth o'r golwg, ond cymerodd ran yn ysbeidiol mewn cyfarfodydd yng Nghymru yn y cyfnod 1925-30 . Cafodd ymgeledd gan gyfeillion ym Mhorth-cawl , ac yn Rhiwbeina , Caerdydd , ac yno y bu f. 29 Ion. 1951 ; claddwyd ef ym meddrod y teulu ym Moriah , Casllwchwr . Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn 1953 o flaen capel Moriah .
Yn ei gyfnod cynnar cyfansoddodd Evan Roberts lawer o gerddi ac emynau, a cheir detholiad o'r rheini yn ei gofiant. Cyhoeddwyd casgliad o'i emynau yn Aberdâr yn 1905 , a phan oedd yn byw yn Leicester cyhoeddodd lyfryn, Gwasanaeth a milwriaeth ysbrydol ( 1912 ).
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe