ROBERTS, JOHN IORWERTH (1902 - 1970), ysgolfeistr, ysgrifennydd Eisteddfod Gydwladol Llangollen

Enw: John Iorwerth Roberts
Dyddiad geni: 1902
Dyddiad marw: 1970
Priod: Dilys Roberts (née Jones)
Priod: Dilys Alwen Roberts (née Jones)
Plentyn: Llinos Neale (née Roberts)
Rhiant: Harriet Roberts (née Roberts)
Rhiant: William John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr, ysgrifennydd Eisteddfod Gydwladol Llangollen
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 8 Mawrth 1902 yn Warrington yn fab i William John Roberts, gweinidog (MC), a'i wraig Harriet, merch Edward Roberts, gweinidog Engedi (MC), Brymbo a fu'n gadeirydd pwyllgor addysg sir Ddinbych. Symudodd y teulu i Bontrhythallt, Llan-rug, Sir Gaernarfon yn 1911 pryd yr aeth i ysgol Penisa'r-waun, ac wedyn i ysgol uwchradd Bryn'refail (1914-19) a'r Coleg Normal, Bangor (1920-22). Aeth yn athro mewn gwahanol ysgolion yn sir Ddinbych, gan gynnwys ysgol uwchradd y Grango, Rhosllannerchrugog ac ysgol elfennol Pen-y-cae, cyn ei benodi'n brifathro ysgol Pentredwr, ger Llangollen, lle y bu nes ymddeol yn 1964. Llwyddodd i droi'r ysgol honno'n batrwm o ysgol Gymraeg answyddogol. Gweithiodd yn ddiwyd fel ysgrifennydd ariannol Undeb Cymru Fydd a bu'n flaenor ac ysgrifennydd capel Rehoboth, Llangollen, am flynyddoedd. Yr oedd yn eisteddfodwr pybyr a bu'n gysylltiedig ag Eisteddfod Gydwladol Llangollen o'i chychwyn yn 1947, gan wasanaethu fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor cyllid am gyfnod. Yr oedd yn gyd-ysgrifennydd cyngor yr eisteddfod pan fu farw. Cymerai ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ar hanes lleol, a chyhoeddwyd y papur a ddarllenodd i Gymdeithas Hanes sir Ddinbych ar 'Eisteddfod fawr Llangollen 1858' yng nghylchgrawn y Gymdeithas, 1959.

Priododd (1) yn Rehoboth, Llangollen ym mis Awst 1934 â Dilys Alwen Jones (bu farw 11 Gorffennaf 1965) a bu iddynt un ferch, Llinos, a briododd â Gwyn Neale, ysgolfeistr Llanrwst; priododd (2) yng Nghapel (MC) King Street, Wrecsam yn 1969 â Dilys Jones, Y Tŵr, Llangollen. Yr oedd yn byw yn Isgaer, Birch Hill, Llangollen pan fu farw yn ddisymwth, 17 Mawrth 1970; claddwyd ef ym mynwent Llantysilio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.