ROBERTS, Syr ERNEST HANDFORTH GOODMAN (1890 - 1969), barnwr

Enw: Ernest Handforth Goodman Roberts
Dyddiad geni: 1890
Dyddiad marw: 1969
Rhiant: Elizabeth Roberts (née Lewis)
Rhiant: Hugh Goodman Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd ym Mhen-y-ffordd, Fflint, 20 Ebrill 1890, yn unig fab i Hugh Goodman Roberts a'i wraig Elizabeth (ganwyd Lewis). Addysgwyd ef yng Ngholeg Malvern a Choleg y Drindod, Rhydychen; yr oedd yn llywydd Undeb Rhydychen yn 1914. Yn ystod Rhyfel Byd I gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a chododd i reng capten. Bu'n gwasanaethu ym Mhalestina. Enwyd ef mewn cadlythyrau a bu'n swyddog llys milwrol. Yn y cyfamser galwyd ef i'r Bar (1916). Bu'n ymgeisydd am sedd sir y Fflint dros y Ceidwadwyr yn 1923 gan ei hennill yn 1924 a pharhau'n A.S. hyd 1929. Urddwyd ef yn farchog yn 1936 ac ef oedd Prif Ustus yr Uchel Lys yn Rangoon o'r fl. honno hyd 1948. Y fl. ddilynol gwnaed ef yn Gwnsler y Frenhines a bu'n gomisiynydd y Brawdlys mewn amryw gylchdeithiau ddeunaw gwaith, 1949-55, ac yn ddirprwy gadeirydd Sesiwn Chwarter y Fflint hyd 1961. Yr oedd yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru 1916-36 ac 1947-59, ac yn ganghellor esgobaethau Bangor, 1947-59, a Chelmsford, 1950-69. Cyhoeddodd Principles of the law of contract (1923). Ni bu'n briod a bu farw 14 Chwefror 1969 yn ei gartref yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.