ROBERTS, DAFYDD (1892 - 1965), cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn

Enw: Dafydd Roberts
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1965
Priod: Nell Roberts
Rhiant: Margaret Roberts
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ymgyrchu
Awdur: John Lewis Jones

Ganwyd 18 Awst 1892 yn Weirglodd-ddu, Capel Celyn, Meirionnydd, yr ieuengaf o blant John a Margaret Roberts. Bu'n byw yn Weirglodd-ddu am y rhan fwyaf o'i oes cyn symud i lawr y dyffryn i fferm Cae Fadog. Bu'n un o ddau yn cario'r post trwy'r ardal am dros ddeugain mlynedd ynghyd â ffermio. Bu'n flaenor am flynyddoedd yng Nghapel Celyn (MC) a pharhaodd yn y swydd hyd ddatgorffori'r capel.

Pan ddaeth bygythiad i foddi'r cwm, etholwyd ef yn gadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn a bu yn y swydd honno hyd yr awr dyngedfennol. Aeth gyda Gwynfor Evans, Elizabeth May Watkin Jones a Dr. Tudur Jones i Lundain ac i Lerpwl i geisio achub y cwm. Ymdrechodd yn deg i atal Corfforaeth Lerpwl rhag dinistrio'i dreftadaeth. Bu'n weithgar iawn yn yr ardal ar hyd ei oes. Pan benderfynwyd yn derfynol fod anhedd-dai'r cwm i gael eu dymchwel, symudodd i fyw i'r Bala.

Bu farw 11 Hydref 1965 ychydig amser cyn agor y gronfa ddŵr yn swyddogol. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil ger y Bala. Goroeswyd ef gan Nell, ei briod, a'u mab.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.