ROBERTS, ARTHUR BRYN (1897 - 1964), undebwr llafur

Enw: Arthur Bryn Roberts
Dyddiad geni: 1897
Dyddiad marw: 1964
Priod: Violet Mary Roberts (née Sheenan)
Rhiant: Mary Roberts
Rhiant: William Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: undebwr llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 7 Ebrill 1897, yn fab i William a Mary Roberts, Abertyleri, Mynwy ac aeth i weithio fel glöwr yn 13 oed. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Ruskin a Choleg Llafur Llundain (Central Labour College) yn 1919. Apwyntiwyd ef yn wiriwr pwysau dros löwyr Rhymni yn 1921 a phum mlynedd yn ddiweddarach penodwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr yn Nyffryn Rhymni. Bu'n ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cymdeithasol o 1934 hyd 1962 pryd yr ymddeolodd oherwydd afiechyd. O dan ei arweiniad cynyddodd yr undeb yn rhyfeddol. Bu'n gynrychiolydd i gynhadledd Ffederasiwn Llafur America yn 1942 ac yn un o ddirprwyaeth o undebwyr Llafur i Tseina yn 1954. Bu'n aelod o bwyllgor ar Weithwyr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl am gyfnod ac yn amlwg fel cynghorydd mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Er ei fod yn ddyn galluog iawn ni ddaeth mor flaenllaw ymhlith yr arweinwyr llafur ag y gellid disgwyl. Cyhoeddodd nifer o bamffledau a llyfrau megis At the TUC (1947), As I see it (1957) a The price of TUC leadership (1961) lle ni phetrusodd feirniadu trefniadaeth y mudiad Llafur.

Priododd Violet Mary Sheenan yn 1922 a bu iddynt fab a 2 ferch. Bu farw 26 Awst 1964 yn ei gartref White Cottage, 11 Scotts Lane, Shortlands, Kent, wedi gwaeledd hir.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.