Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



ROBERTS , ROBERT ALUN ( 1894 - 1969 ), Athro Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol Bangor, a naturiaethwr ; g. 10 Mawrth 1894 yng Nglan Gors , Tan-yr-allt , Dyffryn Nantlle, Caern. , yn fab i Robert Roberts (brawd Owen Roberts , tad y Dr. Kate Roberts ) a Jane Thomas . Derbyniodd ei addysg gynradd yn ysgol Nebo a thrwy ysgoloriaeth enillodd le yn ysgol sir Penygroes . Am gyfnod, bu'n ddisgybl-athro cyn sicrhau lle iddo'i hun yng Ngholeg y Brifysgol , Bangor , yn 1911 . Enillodd radd B.Sc. gydag anrhydedd yn 1915 a chwblhaodd ei radd Ph.D. yn 1927 .

Ei swydd gyntaf oedd athro gwyddoniaeth yn ysgol Botwnnog ( 1915-17 ). Gwasanaethodd gyda'r Weinyddiaeth Amaeth o 1917 hyd 1919 , ac wedi hynny yn ymgynghorydd mewn llysieueg amaeth iddynt hyd 1921 , pan y'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol , Bangor . Yn 1926 dyrchafwyd ef yn ddarlithydd annibynnol a phennaeth Adran Llysieueg amaeth y coleg . Rhwng 1941 ac 1944 rhyddhawyd ef o'i swydd yn y coleg a phenodwyd ef yn swyddog gweinyddol i'r Weinyddiaeth Amaeth dros sir Gaernarfon . Am gyfnod byr yn 1944 ac 1945 bu'n Arolygydd Ei Mawrhydi dros ysgolion gwledig , a chyfrannodd o'i brofiad i Ddeddf Addysg 1944 . Yng Ngorff. 1945 dychwelodd i Goleg y Brifysgol a'i benodi'n Athro Llysieueg amaeth cyntaf coleg Bangor . Daliodd y swydd hon tan ei ymddeoliad yn 1960 .

Gweithiodd Alun Roberts yn ddygn i sefydlu adran gref ym Mangor a llwyddodd i ddatblygu ei ddull dihafal ei hun o drosglwyddo gwybodaeth i'w fyfyrwyr. Cyfrannodd doreth o erthyglau a phapurau i gylchgronau gwyddonol . Am ddeng ml. bu'n darlithio mewn cwrs tiwtorial ar bynciau bywydegol , ac ef oedd aelod cyntaf panel y naturiaethwyr ar y rhaglen radio adnabyddus ‘ Byd Natur ’. Oherwydd ei wybodaeth eang am Gymru bu galw mawr arno i eistedd ar lu o gyrff a chomisiynau cenedlaethol, fel pwyllgor rheoli'r Amgueddfa Werin ; cyngor amaethyddol Cymru ; cyngor Cymru y Comisiwn Coedwigaeth ( 1946-53 ); cyngor Arglwydd Carrington ar Addysg Amaethyddol ; cadeirydd cyntaf y Warchodaeth Natur ( 1953-56 ); aelod Cymreig o'r Comisiwn Brenhinol ar Dir Comin ( 1955-58 ); aelod o dîm ymchwil Sefydliad Nuffield ar Dir Comin yng Nghymru a Lloegr a Phwyllgor Adnoddau Dŵr i Gymru .

Bu'n Uchel Siryf sir Gaernarfon yn ystod y cyfnod 1955-56 . Am ei waith i amaethyddiaeth fe dderbyniodd y C.B.E. yn 1962 . Yr oedd i'w anrhydeddu â gradd D.Litt. yng Ngorff. 1969 , ond bu f. yn ysbyty Môn ac Arfon , 19 Mai 1969 . Gwasgarwyd ei lwch dros fynydd y Cymffyrch , dafliad carreg o'i hen gartref.

Yr oedd yn awdur nifer o lyfrau e.e. Y tir a'i gynnyrch ; Hafodydd brithion ; Welsh Homespun ; Y tyddynnwr-chwarelwr yn Nyffryn Nantlle (Darlith flynyddol Llyfrgell Penygroes , 1968 ); Yr elfen fugeiliol ym mywyd Cymru (Darlith Radio 1968 ) a chyd-awdur Commons and Village Green ( 1967 ).

Pr. Jennie , merch Mr. a Mrs. John Morris Williams , Cae Mawr , Tan'rallt , yn 1924 , a bu iddynt un ferch.

Llyfryddiaeth:

  • Who's who? 1969 ;
  • Y Gwyddonydd , 2 (1964 );
  • Melfyn R. Williams , Doctor Alun Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts , Talybont, 1977 ( 1977 );
  • gwybodaeth bersonol;
  • ei lawysgrifau yn llyfrgell Coleg y Brifysgol ( Llawysgrifau Bangor yn yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor. 20811-21046).

Awdur:

Melfyn Richard Williams, Llanuwchllyn