Ymddengys iddo ddechrau ymddiddori yn hanes ei enwad pan oedd tua hanner cant oed. Dros y 30 ml. ar ôl cyhoeddi yn Seren Gomer ( 1934-35 ) ‘ Hanes dechreuad y Bedyddwyr yng Nglandŵr, Abertawe ” cafwyd llif cyson o erthyglau ganddo yn Seren Cymru , Trafodion Cymd. Hanes y Bedyddwyr , a Seren Gomer , gyda cholofn ‘ Cronicl yr eglwysi ’; yn ymddangos yn gyson yn y cylchgrawn olaf o 1954 hyd 1966 pan gafodd ei daro gan y parlys mud . Ysgrifennodd erthyglau i'r Bywgraffiadur Cymreig hefyd. Dyfarnwyd gwobr iddo am waith ar ‘ Arweinwyr cymdeithasol Bedyddwyr Cymru ’ ac un arall am draethawd maith ar ‘ Fywyd a gwaith James Spinther James ’ ( llsgr. LlGC 12603 D ) yn 1938 . Comisiynwyd ef i ysgrifennu hanes Coleg y Bedyddwyr yn Llangollen a Bangor ; a hanes y Cymry a hyfforddwyd yng Ngholeg Bedyddwyr Bryste . Cyhoeddodd A brief history of the Baptists in Wales ( 1956 ), a Penodau yn Hanes y Bedyddwyr Cymreig, 1649-1949 ( 1949 ), cyfrol sy'n ffynhonnell werthfawr a dibynadwy o hanes yr enwad. Bu'n awdur neu olygydd hanes tua 50 o eglwysi, gan gynnwys dwsin a mwy o gyfrolau safonol megis Hanes Seion, Treforus, 1845-1945 , a'r olaf a wnaeth, sef hanes Noddfa , Treorci , lle'r oedd yn aelod.
Pr. (1), yn 1910 , â Bessie Gwen Morris (bu f. 6 Mawrth 1960 ), Treorci ; a (2), 1961 , ag Annie Lydia Williams (m. 19 Gorff. 1965 ), gweddw David Pryse Williams , gweinidog (B) , Treherbert (gw. isod) . Bu f. 22 Hyd. 1967 yn ei gartref, Y Wenallt , 14 Stryd Bute , Treherbert .
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth