REES, THOMAS WYNFORD ('Dagger '; 1898 - 1959), is-gadfridog

Enw: Thomas Wynford Rees
Ffugenw: Dagger
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1959
Priod: Rosalie Rees (née Innes)
Plentyn: Peter Rees
Rhiant: T.M. Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: is-gadfridog
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd yn 1898 yng Nghaergybi, Môn, ond treuliodd ei ddyddiau cynnar yn y Barri, Morgannwg, lle yr oedd ei dad, T.M. Rees, yn weinidog (EF) Bethel. Priododd yn 1926 â Rosalie, merch hynaf Syr Charles Innes a bu iddynt un mab (Peter Rees, A.S. (C) Dover), ac un ferch. Cydnabyddid ef yn un o filwyr dewraf Cymru yn ystod a rhwng y ddau ryfel byd. Ac yntau'n filwr profiadol o fri mewn brwydrau yn y Dwyrain Pell, canmolwyd ef yn frwd am gymryd Mandalay adeg rhyfel Burma. Cadfridog ' Dagger ' Rees y gelwid ef fynychaf, ond i'w filwyr ' Pocket Napoleon ' ydoedd gan ei fod mor fychan, yn ddim ond 5 troedfedd a 5 modfedd o daldra, neu ynteu ' Pete ' am ei fod bob amser gyda hwy ar flaen y gad. Arwyddlun ei hoff Adran Indaidd oedd tarddiad ei lysenw ' Dagger '. Gwasanaethodd o dan y Cadfridog Allenby yn Rhyfel Byd I yn ymladd y Tyrciaid, (enwyd ef mewn cadnegesau a derbyniodd y M.C.); ac yntau'n swyddog ifanc cafodd y gair o fod yn arweinydd da mewn brwydr. Siaradai Gymraeg a meistrolodd lawer o dafodieithoedd yr India. Wedi'r rhyfel gwasanaethodd yn yr India 1920-37, a gwnaethpwyd ef yn C.I.E. yn 1931. Yn 1939 rhoddwyd 3ydd bataliwn y 6ed Rajputana Rifles o dan ei reolaeth ac ar ddechrau Rhyfel Byd II anfonwyd ef i Burma lle, yn 1940, y clwyfwyd ef ddwywaith gan ennill bar at ei D.S.O. a'i ddyrchafu'n gyrnol. Arweiniodd y 10fed Indian Division yn Irac a gogledd Affrica, 1942, a'r 19eg Indian (Dagger) Division yn Burma, 1944-45, gan gael ei wneud yn C.B. yn 1945 a'i ddyrchafu'n is-gadfridog yn 1947. Bu'n bennaeth Staff Argyfwng Milwrol i Bwyllgor Argyfwng y Cabinet yn Delhi, mis Medi i fis Rhagfyr 1947. Ymddeolodd yn 1948 a'i wneud yn gyrnol er anrhydedd 5ed bataliwn y Gatrawd Gymreig (Byddin Diriogaethol); llywydd er anrhydedd y Boys' Brigade (Cymru); dirprwy raglaw sir Fynwy, 1955; Rheolwr Amddiffyn Sifil Cymru, adran Caerdydd; LL.D. er anrhydedd Prifysgol Cymru; prif swyddog gweithredol a rheolwr cyffredinol Cwmbrân New Town, Mynwy. Bu farw 15 Hydref 1959.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.