Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



REES-DAVIES , IEUAN ( 1894 - 1967 ), cerddor ac awdur ; g. 15 Gorff. 1894 yn Nhreorci , Rhondda, Morg. , a'i addysgu yn ysgol Pentre . Symudodd i Lundain tuag 1914 a bu dan hyfforddiant yng Ngholeg Goldsmith a'r Academi Gerdd Frenhinol . Magodd ddiddordeb arbennig yn safle cerddoriaeth yn yr ysgol, gan ennill diploma L.T.S.C. i athrawon . Enillodd hefyd dystysgrifau L.R.A.M. ac A.R.C.M. a chael F.T.S.C. ac F.T.C.L. er anrh. Bu'n athro ysgol ac yn brifathro yn Llundain , a threfnai ddosbarthiadau i athrawon cerdd yn y Literary Institutes . Penodwyd ef yn ddarlithydd yn y coleg a sefydlwyd yn Marylebone i hyfforddi athrawon cerdd , a bu'n cynghori awdurdodau addysg Llundain , Caint , Essex a Surrey ar gerddoriaeth ysgol. Bu'n athro ac yn arholwr yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain ac yn aelod o gyngor Coleg y Tonic Sol-ffa . Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac erthyglau ar addysg gerddorol , gan arbenigo ar brofion y glust a chanu dosbarth. Ymhlith ei weithiau ceir Transposition at the keyboard ( 1933 ), A sightsinging course for the non-specialist teacher ( 1955 ), Aural tests for schools ( 1960 ), Graded music reading ( 1961 ) a Music for CSE ( 1966 ). Cyfansoddodd donau a rhan-ganau : yr enwocaf o'i weithiau yw ei osodiad i gorau meibion o hwiangerdd a briodolir i'r Brenin Siarl I , ‘ Close thine eyes ’, a droswyd i'r Gymraeg (‘ Cyn cau llygaid ’) gan William Evans (‘ Wil Ifan ’, gw. uchod) ac a gyhoeddwyd gan Curwen yn 1938 . Casglodd hefyd flodeugerdd ddwyieithog o farddoniaeth bro ei eni, Caniadau Cwm Rhondda ( 1928 ) sy'n cynnwys dwy gerdd o'i waith ei hun, ‘ Y garreg fawr ’ a ‘ A nocturne - on Tylacoch ’. Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd o dan yr enw barddol ‘ Ieuan ’ yn Eist. Gen. Treorci yr un flwyddyn. Pr. (1) â Jean Macdonald Fitchet (m. 1938 ); (2) â Barbara Lacey . Trigai ar ddiwedd ei oes yn Kingston-upon-Thames . Bu f. 28 Tach. 1967 .

Llyfryddiaeth:

  • Who's who in Wales ( 1937 );
  • Who's who in Music , Llundain, 1935 ( 1935 ; 1962 );
  • Y Cerddor , Ebr. 1934 .

Awdur:

Dr Rhidian Griffiths, Aberystwyth