PUGH, EDWARD CYNOLWYN (1883 - 1962), gweinidog (MC), awdur a cherddor

Enw: Edward Cynolwyn Pugh
Dyddiad geni: 1883
Dyddiad marw: 1962
Priod: Jennet Pugh (née Jenkins)
Rhiant: Mary Pugh
Rhiant: William Pugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC), awdur a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 21 Mehefin 1883 yn Abergynolwyn, Meirionnydd, mab William a Mary Pugh. Symudodd ei rieni i Drehafod, Cwm Rhondda, Morgannwg, yn 1888, ac yno y'i magwyd a mynd yn löwr ar ôl gadael yr ysgol. Ymddiddorodd mewn cerddoriaeth, a bu'n arweinydd bandiau pres, gan ddatblygu'n gryn gampwr ar ganu'r cornet, - yn ei ddydd bu'n gornetydd Gorsedd y Beirdd. Cafodd dröedigaeth adeg Diwygiad 1904-05, a dechreuodd bregethu yn Siloam, Trehafod. Cafodd addysg bellach yn ysgol golegol Pontypridd, Coleg Trefeca, a Choleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn B.A.). Ordeiniwyd ef yn 1917, a bu'n gweindogaethu gyda'r Symudiad Ymosodol ym Mhont-y-pŵl a Thonyrefail, ac yn eglwys Saesneg Wilmer Road, Birkenhead. Ymfudodd i T.U.A. yn 1928 i ofalu am eglwys Gymraeg Chicago, ac eglwys Gymraeg Efrog Newydd ar ôl hynny. Ymddeolodd c. 1956, a dychwelyd i Gymru. Priododd, 1917, â Jennet Jenkins o Gwm Nedd, a bu iddynt dair o ferched.

Yr oedd Cynolwyn Pugh yn ŵr amryddawn, ac ysgrifennodd i'r cyfnodolion yng Nghymru ac America. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy (1958), am hunangofiant, ac fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Ei ffanffêr ei hun yn 1959. Bu farw yng Nghaerdydd 22 Mawrth 1962.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.