Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PRYCE , FREDERICK NORMAN ( 1888 - 1953 ), curadur amgueddfa ; g. 19 Awst 1888 yn y Trallwng, Tfn. , yn fab T. W. Pryce a'i wraig. Wedi mynychu'r ysgol ramadeg aeth i G.P.C. , Aberystwyth , lle y graddiodd mewn Lladin dosbarth I yn 1908 , ac mewn Groeg dosbarth I yn 1909 . Penodwyd ef i staff yr Amgueddfa Brydeinig yn 1911 , a'i ddyrchafu'n Geidwad Cynorthwyol ( 1934 ) ac yn Geidwad Henebion Groeg a Rhufain ( 1936-39 ). Gwasanaethodd yn y dwyrain canol yn Rhyfel Byd I (a'i enwi mewn cadlythyrau ddwywaith), ac mewn intelligence yn Rhyfel Byd II . Ef oedd golygydd Journal of Hellenic Studies , 1924-38 , ac yr oedd yn awdur nifer o bapurau ar hanes ac archaeoleg a chatalogau safonol o henebion clasurol.

Pr. Ruby Sewell yn 1925 , a bu f. yn ei gartref, 31 Erw Wen , y Trallwng , 14 Hyd. 1953 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? .

Awdur:

Dr Brynley Francis Roberts, Aberystwyth