Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PHILLIPS, EDGAR (‘Trefîn ’; 1889-1962), teiliwr, athro ysgol, bardd, ac Archdderwydd Cymru, 1960-62; g. 8 Hyd. 1889 yn Rose Cottage, Tre-fin, Penf., yn unig blentyn William Bateman a Martha (g. Davies) Phillips. Morwr oedd y tad ond wedi ymddeol o'r môr bu'n bobydd ym Mhorth-cawl. Collodd Trefîn ei fam yn 1898 a hithau wedi treulio 5 ml. yn ysbyty Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, a mabwysiadwyd ef gan chwaer ei dad, Mari, gwraig John Martin, gwneuthurwr hwyliau, a hen forwr. Saesneg gan mwyaf oedd iaith y cartref a Saesneg, wrth gwrs, oedd iaith yr ysgol ddyddiol, ond diolch i'r Ysgol Sul cadwodd ei Gymraeg. Ceisiodd ddianc i'r môr pan ddeallodd fod y teulu am ei brentisio'n deiliwr. Pan ailbr. ei dad symudodd y teulu i Gaerdydd ac aeth y bachgen yn 11 oed i ysgol Sloper Road. Cymerodd (Syr) John Rowland (Bywg. 2, 52), yr athro Cymraeg, ddiddordeb ynddo a threfnu iddo gael benthyg Cymru a chyfnodolion Cymraeg eraill. Ceisiai ei dad a'i lysfam ei ddiddyfnu oddi wrth ei ddiddordeb yn y Gymraeg. Ar daith i sir Benfro cafodd gwmni Owen Morgan Edwards (Bywg., 179) ar y trên a bu hynny'n atgyfnerthiad i'w Gymreictod. Pan oedd yn 14 oed dychwelodd i Dre-fin yn brentis teiliwr i'w ewythr J. W. Evans, a chan fod y gweithdy'n fagwrfa i feirdd ac yn ysgol yn y cynganeddion, meistrolodd Trefîn yr Ysgol Farddol (Dafydd Morganwg'). Bu'n teiliwra yn Nhreletert a Hendy-gwyn ar Daf am flwyddyn wedi gorffen ei brentisiaeth. Dychwelodd i Gaerdydd i arbenigo ar ‘dorri’ a datblygodd i fod yn deiliwr dillad merched. Yn 1912 symudodd i Lundain gan weithio mewn nifer o siopau dillad cyn dychwelyd i Gaerdydd fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas. Ym mis Awst 1914 agorodd fusnes teiliwr mewn partneriaeth â Trefor Roberts. Yn 1915 ymunodd â'r fyddin gan ddewis y Royal Garrison Artillery a daeth yn Bombardier. Cafodd niweidiau tost pan syrthiodd un o'r distiau mewn seler ar ei ben mewn ymosodiad gan fagnelau a symudwyd ef o ysbyty i ysbyty nes ei ryddhau o'r fyddin. Cafodd waith dros dro gan Gwmni Seccombes yng Nghaerdydd. A'i iechyd yn dirywio symudodd i gyffiniau'r Coed-duon yng Ngwent a gweithio mewn siop ym Margod. Yn 1921 aeth i Goleg Caerllion a chael tystysgrif addysgu gyda chlod. Bu'n athro Cymraeg yn ysgol gynradd Pengam 1923-24 cyn ei benodi'n athro Cymraeg yn ysgol uwchradd Pontllan-fraith lle y bu'n dysgu nes ymddeol yn 1954. Yr oedd yn un o arloeswyr darlledu Cymraeg a bu ei dditectif Bili bach yn arwr i blant y cyfnod hwnnw. Yr oedd yn gystadleuydd cyson yn yr eisteddfodau. A chanddo 33 o gadeiriau a choron eisoes, enillodd gadair yr Eist. Gen. yn 1933 a bu'n Geidwad cledd Gorsedd y Beirdd o 1947 hyd 1960, pryd y gwnaed ef yn Archdderwydd. Cyhoeddodd Trysor o gân, caneuon i blant mewn pedair cyfrol (1930-36), Caniadau Trefin (1950) ac Edmund Jones, ‘The Old Prophet' (1959).

Bu'n br. deirgwaith: (1), Hannah Clement, nyrs o Dredegar yn 1915. Bu hi f. 24 Ebr. 1943. Bu iddynt un ferch. Pr. (2), Violet Annie Burnell, athrawes, 13 Ebr. 1946. Diddymwyd y briodas yn ddiwrthwynebiad ar ddeiseb Trefîn, Tach. 1950. Pr. (3), Maxwell Fraser, 24 Hyd. 1951. Bu ef f. 30 Awst 1962.

Llyfryddiaeth:

  • Brinley Richards, Cofiant Trefîn [1963].

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth