PASCOE, Syr FREDERICK JOHN (1893 - 1963), diwydiannwr

Enw: Frederick John Pascoe
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1963
Priod: Margaret Esson Pascoe (née Scott)
Rhiant: Frederick Richard Pascoe
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: David Glanville Rosser

Ganwyd yn Truro, Cernyw, 19 Mawrth 1893, yn fab i Frederick Richard Pascoe. Priododd, yn 1936, â Margaret Esson, merch Cyrnol F. J. Scott, a bu iddynt un mab ac un ferch. Addysgwyd ef yng Nghaerwysg a Choleg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. Gwyddorau Mecanyddol). Cychwynnodd ar ei yrfa mewn diwydiant yn brentis yn Leeds Forge. Yn ystod Rhyfel Byd I gwasanaethodd yn Ewrop yn swyddog gyda'r Durham County Light Infantry ac ar ôl hynny gyda'r Indian Signal Service. Daeth yn un o ddiwydianwyr blaenaf Prydain rhwng y ddau ryfel byd ac wedi hynny. Fel ysgrifennydd Electric and Railway Finance Corporation, 1926-30, y daeth gyntaf i sylw'r cyhoedd ac yn fuan wedyn daeth i gysylltiad â Chymru a'i diwydiant, cysylltiad a barhaodd dros weddill ei oes. Disgrifiwyd ef yn garedig fel gŵr o Gernyw a chanddo ddigon o waed y Celt iddo deimlo ei fod yn perthyn i Gymru ac yn arbennig i gymoedd y De. Yn 1930 daeth yn gyfarwyddwr British Timken Ltd. Bu'n gadeirydd a chyfarwyddwr-reolwr o 1940 hyd 1959 pryd y daeth yn gadeirydd Adran Prydain o'r Timken Roller Bearing Co., cyfundrefn ddiwydiannol fawr y cynyddodd ei gweithlu o ychydig gannoedd o wŷr i gyflogi 7,000 o weithwyr. Ymhlith y canghennau yr oedd Aberdare Holdings (a gynhwysai Aberdare Cables Ltd., Aberdare Engineering Ltd., a South Wales Switchgear) a sefydlwyd gan Syr John yn 1955 ac a ddaeth â gwaith i 4,000 o ddynion mewn ardal ddirwasgedig o dde Cymru. Bu'n aelod o gyngor cenedlaethol Aims of Industry, a'r Regional Advisory Council for the Organisation of Further Education in the East Midlands. Ac yntau'n Geidwadwr pybyr, bu'n gadeirydd Cymdeithas Geidwadol ac Unoliaethol Kettering, 1948-53; yn rhyddfreinwr Dinas Llundain ac yn Liveryman of the Worshipful Company of Tin Plate Workers alias Wire Workers, a'r Fishmongers' Company. Urddwyd ef yn farchog yn 1957 a bu farw 5 Chwefror 1963.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.