Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , ROBERT ( BOB OWEN , Croesor ; 1885 - 1962 ), hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr ; g. ym Mhen-y-parc , ( Twllwenci ar lafar), Llanfrothen, Meir. , 8 Mai 1885 [yn fab i Jane Owen yn ôl llsgr. LlGC 19295B ], a'i fagu gan ei nain, Ann Owen , merch i wehydd o Aberffraw , Môn . Gadawodd ysgol elfennol Llanfrothen yn 13 oed i fynd yn was bach ar fferm Plas Brondanw . Bu'n gweini ar ffermydd yn yr ardal am dair bl. cyn cael swydd yn glerc yn chwarel Parc a Chroesor . Treuliodd 30 ml. yno hyd 30 Ion. 1931 pan gaeodd y chwarel oherwydd dirwasgiad yn y fasnach lechi. Wedi cyfnod o ddwy flynedd a hanner yn ddi-waith fe'i penodwyd yn drefnydd i Gyngor Sir Gaernarfon ac yna'n ddarlithydd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr .

Y dylanwad pennaf arno'n addysgol fu troi ymysg dynion gwybodus a diwylliedig yn swyddfa'r chwarel ac yno y cydiodd ynddo yr ysfa i chwilota. Casglodd lyfrgell enfawr a ledaenai i bron bob ystafell yn ei gartref. Daeth i'r amlwg yn arbennig ar bwys ei golofn wythnosol yn y Genedl Gymreig , ‘ Lloffion Bob Owen ’, 1929-37 . Cyfrannodd yn helaeth i amryw byd o newyddiaduron a chryn ugain o wahanol gylchgronau. Bu'n fuddugol hefyd ar draethodau swmpus yn yr Eist. Gen. gan gynnwys un o tuag 800 o dudalennau ffwlsgap mewn ysgrifen fân neu wedi ei deipio'n glòs ar ymfudiadau o Gymru i Daleithiau Unedig America rhwng 1760 ac 1860 , a ‘ Diwydiannau coll — ardal y ddwy afon, Dwyryd a Glaslyn ’, a gyhoeddwyd yn gyfrol yn 1943 .

Ystyriai ysgolheigion ef yn chilotwr gwyddonol , yn achyddwr o bwys ac yn awdurdod ar hanes Cymry America . Dyfernwyd iddo radd M.A. er anrh. gan Brifysgol Cymru (yr ieuengaf erioed yn 47 oed) a'r O.B.E. yn ddiweddarach am ei gyfraniad i hanes a llenyddiaeth Cymru .

Pr. ym mis Meh. 1923 â Nel Jones , merch o Gaeathro a gwnaethant eu cartref yn Ael-y-bryn , Croesor . Ganwyd iddynt ddwy ferch a mab. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd ryfeddol ymhob rhan o Gymru a thros y ffin, mewn cymdeithasau Cymraeg . Oherwydd ei ddiddordeb mewn pobl a'u hachau tueddai i godi ysgyfarnogod a mynd ar eu trywydd wrth ddarlithio . Fe'i cyhuddid hefyd o ‘ddryllio delwau’ oherwydd rhai sylwadau a wnâi am bobl fel Mary Jones o'r Bala a John Elias o Fôn . Daliai ef, fodd bynnag, iddo godi llawer mwy o ddelwau nag a ddrylliodd.

Yr oedd yn bersonoliaeth liwgar a thanllyd eithriadol, yn rhyferthwy o fywyd, ac yn sgîl ei hynodrwydd mewn sawl cyfeiriad fe dyfodd yn gymeriad chwedlonol yn ei oes ei hun. Bu f. 30 Ebr. 1962 a'i gladdu ym Mynwent Newydd Llanfrothen .

Llyfryddiaeth:

  • Dyfed Evans , Bywyd Bob Owen , 1977 ( 1977 );
  • Robin Williams , Y Tri Bob , Llandysul, 1970 ( 1970 );
  • LlGC 19295B.

Awdur:

Dyfed Oswald Evans, Pwllheli