OWEN, Syr ARTHUR DAVID KEMP (1904 - 1970), gweinyddwr cydwladol

Enw: Arthur David Kemp Owen
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1970
Priod: Elizabeth Elsa Owen (née Miller)
Priod: Elizabeth Joyce Owen (née Morgan)
Rhiant: Gertrude Louisa Owen (née Kemp)
Rhiant: Edward Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinyddwr cydwladol
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 26 Tachwedd 1904, yn fab hynaf Edward Owen, gweinidog eglwys Crane Street (B), Pont-y-pŵl a symudasai ychydig fisoedd ynghynt o eglwys Bethel (B), Tonypandy, a'i wraig Gertrude Louisa, merch Thomas Henry Kemp (a fuasai'n ysgolfeistr nodedig yn Nhal-y-bont, Ceredigion, o 1865 i 1892 ac yn feistr yn yr adran Normal yng Ngholeg Prifysgol Cymru o 1892 i 1894, pryd y symudodd i fod yn brifathro canolfan hyfforddi athrawon Merthyr Tudful). Symudodd y teulu o Gymru yn 1908 pan sefydlwyd y tad yn weinidog ar eglwys Hope, Hebden, ger Leeds, ac yn ysgol ramadeg a Phrifysgol Leeds yr addysgwyd David Kemp fel y gelwid ef yn gyffredin. Graddiodd mewn economeg ac astudiaethau masnachol a chymryd gradd M.Com. yn 1929. Bu'n gyfarwyddwr i bwyllgor arolwg cymdeithasol yn Sheffield, 1929-33, ysgrifennydd adran ddinesig Cynllunio Gwleidyddol ac Economaidd (P.E.P.), 1933-36, cyd-gyfarwyddwr Ymchwil Diweithdra'r Pilgrim Trust, 1936-37, darlithydd mewn dinasyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow, 1937-40, ac ysgrifennydd cyffredinol P.E.P., 1940-41. Yn 1942 daeth yn gynorthwywr personol i Syr Stafford Cripps yn swyddfa Arglwydd y Sêl Gyfrin i ddechrau, ac yna yn y Weinyddiaeth Cynhyrchu Awyrennau. Yr oedd yn aelod o genhadaeth Cripps i'r India yn 1942. Bu'n aelod o Adran Adlunio'r Swyddfa Dramor gyda gofal am faterion Cynghrair y Cenhedloedd, 1944-45. Yr oedd yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn San Francisco yn 1945, a daeth yn un o brif weinyddwyr y Cenhedloedd Unedig o 1946 hyd ei ymddeoliad yn 1969. Gweithredodd ar fwrdd golygyddol yr Encyclopaedia Britannica o 1959 i 1968. Yr oedd yn gredwr diysgog yn egwyddor cydweithio rhwng cenhedloedd; bu ei wasanaeth i'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfnod ffurfio'r gyfundrefn yn allweddol, ac enillodd edmygedd cyffredinol. Yn ddiamau, yr oedd dylanwad ei dras anghydffurfiol Gymreig yn drwm ar ei ddelfrydau, a synhwyrid fod atsain Gymreig yn ei leferydd. Ychydig cyn ei farw, gwnaethpwyd ef yn ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Cydgenedlaethol Cynllunio Cenhedlu.

Priododd yn 1933 Elizabeth Joyce, merch E. H. Morgan, gweinidog (EF). Bu iddynt fab a merch. Wedi ysgariad yn 1950 priododd Elizabeth Elsa Miller, a bu iddynt ddau fab. Bu farw yn ysbyty S. Thomas yn Llundain 29 Mehefin 1970, wedi ei wneud yn K.C.M.G. y fl. honno. Yn ychwanegol at gyhoeddi ei adroddiadau ar yr arolwg ar Sheffield yn 1931-33, cyhoeddodd British Social Services yn 1940, a llu o gyfraniadau i gyfnodolion. Rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd iddo yn 1969. Cawsai radd gyffelyb gan Brifysgol Leeds yn 1954.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.