Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , JOHN ( 1864 - 1953 ), gweinidog (MC) ac awdur ; g. 17 Ebr. 1864 ym Mhen-y-maes , Morfa Nefyn, Caern. , m. James a Margaret Owen . Bu mewn swyddfa yn Lerpwl am chwe bl. ac yno, yn 1884 , y dechreuodd bregethu . Addysgwyd ef yn ysgol Clynnog , Coleg y Bala , ac yn Rhydychen (lle graddiodd yn 1892 , M.A. yn 1903 ). Bu'n diwtor am flwyddyn yng Ngholeg y Bala . Ord. ef yn 1892 , a bu'n gweinidogaethu yn y Gerlan , Bethesda ( 1892-1902 ), Y Bowydd a'r eglwys Saesneg , Blaenau Ffestiniog ( 1902-09 ), ac Engedi , Caernarfon ( 1909-26 ). Pr. Hannah Evans , Dyffryn Nantlle ; ni bu iddynt deulu. Dychwelodd i Forfa Nefyn ar ôl ymddeol; bu f. 1 Mawrth 1953 yn y Royal Infirmary , Lerpwl , a chladdwyd ef ym mynwent Nefyn .

Yr oedd yn arweinydd amlwg o'r Cyfundeb y perthynai iddo. Bu'n llywydd Sasiwn y Gogledd ( 1920 ac 1949 ), ac yn llywydd y Gymanfa Gyffredinol ( 1926 ). Traddododd y Ddarlith Davies yn 1923 , ac fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Gwybodaeth y Sanctaidd ( 1923 ). Ysgrifennodd lawer i gylchgronau'i enwad, a bu'n golofnydd wythnosol yn Y Goleuad o 1930 ymlaen dan yr enw ‘ Sylwedydd ’, — cyhoeddwyd detholiad o ysgrifau'r golofn hon, Sylwadau sylwedydd , 1949 . Cyhoeddodd hefyd y llyfrau a ganlyn: Cofiant a gweithiau David Roberts y Rhiw ( 1908 ); Rolant y teiliwr ac ysgrifau eraill ( 1920 ); Y Cyfundeb a'i neges ( 1935 ), yn Gymraeg ac yn Saesneg . Golygodd gyfrolau o bregethau John Williams , Brynsiencyn ( 1922 ac 1923 ) , a Thomas Charles Williams ( 1928 ac 1929 ). Cyhoeddodd hefyd werslyfr ar deithiau'r Apostol Paul ( 1902 ), ac esboniad ar Efengyl Luc ( 1927 ac 1928 ). Yn rhinwedd ei swydd fel golygydd cyffredinol y Llyfrfa , Caernarfon , am flynyddoedd hwylusodd lawer o gyfrolau o waith awduron eraill drwy'r wasg. Yn 1950 cafodd radd D.D. (er anrh.) gan Brifysgol Cymru . Yn 1957 , ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd detholiad o'i bregethau (gol. gan William Morris ).

Llyfryddiaeth:

  • Who's who in Wales ( 1921 ), 350;
  • Who's who in the Free Churches? , (1951) , 350;
  • Y Drysorfa , 1920 , 121-3; 1926 , 1-3; 1949 , 59-63;
  • Y Goleuad , 11 Mawrth 1953 ;
  • >Blwyddlyfr y Methodistiaid Calfinaidd , 1954 , 228-9.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe