Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , WILLIAM HUGH ( 1886 - 1957 ), gwas sifil ; g. 16 Chwef. 1886 yn fab i Thomas Owen , Caergybi , Môn . Ymunodd ag adran forwrol y London and North Western Railway yn 1906 cyn dod yn un o staff personol David Lloyd George ( Bywg. 2, 39-40) a chyflawni nifer o genadaethau pwysig ar ei ran. Ar ddechrau Rhyfel Byd I ymunodd â'r Peirianwyr Brenhinol a mynd i Ganada yn 1917 a chynrychioli'r Swyddfa Ryfel yno fel cyfarwyddwr camlesi a dociau . Yr oedd yn gyfrifol am osod contractau a goruchwylio'r gwaith o wneud cychod cynorthwyol addas at waith ar y cefnfor , gyda'r glannau ac ar y camlesi, a hefyd am brynu a llogi badau ar gyfer gwneud gwaith cyffelyb. Daeth yn is-gyrnol yn 1918 ac anrhydeddwyd ef yn C.B.E. yn 1919 . Wedi hynny bu'n gynrychiolydd arbennig Comptroller of the Admiralty ac yn ddiweddarach cynrychiolodd y Weinyddiaeth Longau yno. Yn 1910 chwaraeodd hoci dros Gymru yn erbyn Iwerddon . Pr., 8 Hyd. 1919 , Enid Strathearn , merch Syr John Hendrie , is-lywodraethwr Talaith Ontario , a bu iddynt dair merch. Ymgartrefodd ym Montreal a bu f. 21 Chwef. 1957 .

Llyfryddiaeth:

  • Who was who? ;
  • Who's who in Canada , Toronto , 1922 .

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth