Yn 1910 etholwyd ef yn A.S. dros Fwrdeistref Dinbych o wyth pleidlais yn unig ond yn 1918 symudodd i sedd ddiogelach yn Stafford a bu'n A.S. yno hyd 1938 pan olynodd ei dad i Dŷ'r Arglwyddi . Daeth yn arbenigwr ar drefedigaethau'r Ymerodraeth a bu'n Is-Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1922 hyd 1929 ac eithrio am y cyfnod byr pryd yr oedd Llafur mewn grym yn 1924 . Yn y flwyddyn honno arweiniodd y Comisiwn a ymwelodd â Dwyrain a Chanolbarth Affrica . Yr oedd yn aelod o'r Cabinet o 1931 hyd 1938 ac yn 1936 penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau lle'r oedd ei brofiad eang o'r maes yn amhrisiadwy. Fodd bynnag daeth un o'i elynion gwleidyddol pennaf, Neville Chamberlain , yn Brifweinidog yn 1937 a'r flwyddyn ganlynol ymddiswyddodd mewn amgylchiadau chwerw. Gwrthwynebodd bolisïau tramor Chamberlain ac yr oedd yn feirniad cyson o'r Nazïaid . Yn gyffredinol, yr oedd yn wleidydd didwyll a blaengar er yn fyrbwyll ar adegau.
Ar ôl ymddeol o'r byd gwleidyddol trodd ei sylw at fancio ac at ei ddiddordebau yn y celfyddydau . Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi Florentine sculptors of the fifteenth century ( 1930 ), A guide to the Mantegna cartoons at Hampton Court ( 1935 ), a Guides to the ancient monuments of England (3 cyfrol). Cyflwynodd ef a'i dad gasgliad gwerthfawr o lawysgrifau Brogyntyn ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (fe'u prynwyd yn ddiweddarach) ac ef oedd Llywydd y Llyfrgell o 1950 hyd 1958 . Yr oedd hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru ac yn Gwnstabl cestyll Harlech a Chaernarfon . Bu f. 14 Chwef. 1964 .
Gwyn Jenkins, Aberystwyth