NEPEAN
(g.
BELLIS
),
MARY EDITH
(
1876
-
1960
),
nofelydd
;
g. yn
Llandudno, Caern.
,
1876
yn ferch i
John
Bellis
, un o
gynghorwyr sir
Gaernarfon
a
Mary
ei wraig. Cafodd ei haddysg gartref, astudiodd gelfyddyd gyda
Robert
Fowler
, ac yn ddiweddarach cafodd beth o'i gwaith ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd. Pr. yn
1899
Molyneux Edward
Nepean
, un o deulu o
weision sifil
uchel eu graddfa, ac aeth i
Loegr
i fyw, gan gymdeithasu mewn cylchoedd llenyddol yn
Llundain
. Yn
1932
cyhuddodd
Caradoc
Evans
(
Bywg.
2, 13)
o enllib yn ei herbyn yn ei nofel
Wasps
(
1933
), a gorfododd iddo wneud newidiadau yn y llyfr cyn ei gyhoeddi. Cymerodd ran yn y bywyd cyhoeddus, gan ddod yn ‘
Commandant
’ adran yn y
Groes Goch
yn
swydd Caint
, a theithiodd yn helaeth yn y
Dwyrain Agos
a'r
Balcaniaid
gan gymryd
diddordeb arbennig ym mywyd sipsiwn
Transilfania
.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf,
Gwyneth of the Welsh Hills
, yn
1917
, sy'n dangos dylanwad arddull
Allen Raine
(
Anne Adalisa
Puddicombe
,
Bywg.
, 762)
a
Caradoc
Evans
. Dilynwyd hon gan 34 o nofelau rhamantaidd, ysgafn, bron i gyd gyda chymeriadau a chefndir
Cymreig
. Ysgrifennodd un teithlyfr,
Romance and realism in the Near East
(
1933
), ynghyd â llawer o erthyglau poblogaidd i'r wasg newyddiadurol. Bu f. ei gŵr yn
1948
. Bu hithau f.
23 Maw. 1960
a chladdwyd hi ym
mynwent Y Gogarth
,
Llandudno
.
Llyfryddiaeth:
-
Who was who?
;
-
T. Ll. Williams
,
Caradoc Evans
, Caerdydd, 1970
(
1970
), 93-4;
-
Llandudno and District Advertiser
,
26 Maw. a 2 Ebr. 1960
.
Awdur:
Sally Roberts Jones, Port Talbot