Gwasanaethodd yn y ddau Ryfel Byd (gyda'r gwŷr traed , 1915-19 ; R.A.S.C. , ac yn ddiweddaf fel uchgapten yn Adran Hanes y Swyddfa Ryfel , 1940-45 ); ymhlith ei ddiddordebau eraill ymfalchîai'n arbennig yn ei aelodaeth yng Nghorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru .
Pr. yn 1931 Margaret Elizabeth , merch William Luck , Lerpwl ; bu iddynt 2 fab. Bu f. 15 Rhag. 1955 .
Treuliodd Nash-Williams ei holl yrfa broffesiynol yng ngwasanaeth Amgueddfa Gen. Cymru a Choleg y Brifysgol yng Nghaerdydd . Pan benodwyd Mortimer Wheeler y bu'n un o'i ddisgyblion cynnar, yn gyfarwyddwr yr Amgueddfa yn 1924 , cynigiwyd ceidwadaeth-gynorthwyol yr adran archaeoleg i Nash-Williams dan Cyril Fox (gw. uchod) ; a phan ddaeth Fox yn gyfarwyddwr yn ei dro, daeth Nash-Williams yn geidwad adran archaeoleg yr Amgueddfa a darlithydd mewn archaeoleg yn y coleg, swydd a gysylltwyd â'r geidwadaeth oddi ar ddyfodiad Wheeler yn 1920 ; Nash-Williams , fodd bynnag, oedd yr olaf i ddal y ddwy swydd. Yn y cyfnodau Rhufeinig a Christionogol cynnar yn bennaf y gorweddai ei brif ddiddordebau. Yr oedd yn gloddiwr brwdfrydig a dyfal, wedi llyncu dysgeidiaeth gynnar Wheeler , ond heb ddatblygu ymhellach: ei adroddiadau cloddio gorau, felly, yw ei rai cynnar — ar Gae Jenkins a'r Prysg yn Nghaerllion , ac ar y baddonau &c, a'r amddiffynfeydd yng Nghaer-went . Ynglŷn â Chaer-went bu'n cloddio ar y fryngaer o'r Oes Haearn Ddiweddar yn Llanmelin ac ar y gaer benrhyn ar lan Hafren ger Sudbrook ; yn ddiweddarach, bu'n ailgloddio'r fila Rufeinig yn Llanilltud Fawr , ac adeg ei farw yr oedd ar waith ar gyfres bwysig o gloddiadau y tu allan i gaer y llengoedd yng Nghaerllion . Ei gyhoeddiad cyffredinol cyntaf yn y maes Rhufeinig oedd ei Catalogue of the Roman inscribed and sculptured stones found at Caerleon ( 1935 ), gyda'i frawd, Alva Harry , yn gyd-awdur ; ei un olaf o'r fath, The Roman frontier in Wales ( 1954 ), — ‘llym o ffeithiol’, yn ôl H. J. Randall (gw. isod) . Yn y ddau dangosodd allu pendant i ddadansoddi, cywasgu, a threfnu defnyddiau amrywiol; a dangoswyd y nodwedd hon i raddau mwy a gwerthfawrocach hyd yn oed yn yr un gwaith ganddo y gellir yn gyfiawn hawlio ei fod yn gampwaith, i'r hwn yr aeth cariad a llafur blynyddoedd lawer, a theimladrwydd ysbrydol Cristion defosiynol hefyd, ei Early Christian monuments of Wales ( 1950 ). Y mae'r arysgrif goffa ar efydd yn yr Amgueddfa Lengol yng Nghaerllion , sy'n awr gyferbyn â'r arysgrif fawr ymerodrol o'r fl. 100 AD a ddarganfuwyd ganddo ef ei hun, yn gorffen gyda'r llinellau hyn, o'u cyfieithu: ‘ Yr oedd yn rasol mewn bywyd, yn fanwl mewn ysgolheictod, yn ddiofn wrth amddiffyn yr hyn y credai ef mai'r gwirionedd ydoedd, yn ddi-feth mewn cyfeillgarwch, yn anhunanol wasanaethgar i'w gydweithwyr, ei staff, a'i fyfyrwyr ’.
George Counsell Boon (1927-94), Penarth