MORRIS, PERCY (1893 - 1967), gwleidydd ac undebwr llafur

Enw: Percy Morris
Dyddiad geni: 1893
Dyddiad marw: 1967
Priod: Catherine Morris (née Evans)
Priod: Elizabeth Morris (née Davies)
Rhiant: Emma Morris
Rhiant: Thomas Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd ac undebwr llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 6 Hydref 1893 yn Abertawe, yn fab i Thomas ac Emma Morris. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Manselton ac ysgol uwchradd Dinefwr, Abertawe. Bu'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth Lafur yn ei ieuenctid, a bu galw mawr amdano fel siaradwr cyhoeddus huawdl hyd yn oed cyn iddo adael yr ysgol. Yn 1908 penodwyd ef i swydd weinyddol ar reilffordd y Great Western, a daeth yn undebwr Llafur pybyr ar unwaith. Cafodd ei ethol yn aelod o gyngor sir Bwrdeisdref Abertawe yn 1927. Daeth yn henadur o'r cyngor ac yn 1935 fe'i dewiswyd yn gadeirydd ar bwyllgor seneddol y cyngor. Gwasanaethodd fel dirprwy faer yn 1944-45, a maer y cyngor yn 1955-56, a bu'n aelod o nifer fawr o'i bwyllgorau. Cafodd ei benodi'n ynad heddwch dros ddinas Abertawe yn 1939. Bu'n drysorydd Cymdeithas Clercod y Rheilffyrdd rhwng 1937 ac 1943, yn llywydd y Gymdeithas, 1943-53, ac yn Ddirprwy Gomisiynydd Rhanbarthol Amddiffyn Sifil ar gyfer rhanbarth Cymru o 1941 hyd 1945. Yr oedd yn llywydd Cymdeithas Lafur Abertawe yn ystod Rhyfel Byd II.

Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Llafur yn erbyn Syr Lewis Jones yn etholaeth Gorllewin Abertawe yn etholiad cyffredinol 1935. Etholwyd ef yn aelod seneddol (Llafur) dros yr un etholaeth yn 1945 a pharhaodd i gynrychioli Gorllewin Abertawe yn y senedd hyd 1959 pan gollodd ei sedd i'r Ceidwadwr J. E. H. Rees o 403 o bleidleisiau. Bu'n aelod o ddirprwyaeth seneddol i'r Dwyrain Pell yn 1955. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Bwrdd Cynhorthwy Cenedlaethol, 1961-66, yn ddirprwy gadeirydd arno, 1965-66, ac yn ddirprwy gadeirydd y Comisiwn Budd-daliadau Atodol, 1966-67.

Bu'n aelod o gyngor Coleg y Brifysgol, Abertawe, am flynyddoedd. Chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth Lafur Abertawe am fwy na 40 mlynedd. Yr oedd yn Annibynnwr selog, yn bregethwr lleyg, a bu'n gadeirydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin o Undeb yr Annibynwyr rhwng 1927 ac 1945. Daeth yn rhyddfreiniwr bwrdeistref Abertawe yn 1958 a derbyniodd y C.B.E. yn 1963.

Priododd (1) yn 1920 Elizabeth, merch William Davies. Cafodd hi, ei chwaer ef, a'i frawd-yng-nghyfraith eu lladd yn ystod bomio Abertawe gan yr Almaenwyr yn Ionawr 1941. Priododd (2) yn 1956 Catherine Evans. Ymgartrefai yn 30 Lôn Cedwyn, Cwmgwyn, Abertawe. Bu farw 7 Mawrth 1967.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.