MORRIS, HAYDN (1891 - 1965), cerddor

Enw: Haydn Morris
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1965
Rhiant: Rachel Morris
Rhiant: Richard Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Huw Williams

Ganwyd yn Llanarthne, Caerfyrddin, 18 Chwefror 1891, yn fab i löwr, a'r ieuangaf o saith o blant. Collodd ei rieni (Richard a Rachel Morris) yn ieuanc; aeth i weithio i lofa New Cross Hands yn 12 oed, ac aros yno hyd nes y penderfynodd ymroi'n llwyr i gerddoriaeth yn 1916.

Ymddiddorai mewn cerddoriaeth yn gynnar iawn yn ei fywyd, a bu'n astudio yn gyntaf gydag athrawon lleol, ac yna gyda D. Vaughan Thomas yn Abertawe. Ar ôl iddo ennill A.R.C.M. yn 1918 trefnwyd cyngerdd i'w gynorthwyo i gael addysg bellach. Aeth i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain yn ddiweddarach y flwyddyn honno, lle y bu'n astudio tan 1922, gan ennill gwobr Oliveria Prescott am gyfansoddi, a derbyn cymeradwyaeth arbennig gan Edward Elgar. Graddiodd yn Mus. Bac. yn 1923, a derbyniodd radd D.Mus. o Brifysgol Efrog Newydd yn 1943.

Gwrthododd swyddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yn Canada yn 1923, a threuliodd ei yrfa fel organydd a chôr-feistr mewn tair o eglwysi yng Nghymru, sef yn eglwys Heol Undeb Caerfyrddin (hyd 1926), eglwys Soar, Merthyr Tudful (1926-28), a Chapel Als, Llanelli (1928-60). Yn Llanelli treuliodd flynyddoedd prysur fel athro, beirniad, arweinydd a chyfansoddwr. Bu farw Rhagfyr 1965 a'i gladdu yn Llanelli.

Yr oedd yn un o dri chyfansoddwr amlwg y cyfnod rhwng y ddau ryfel a fwriodd eu prentisiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol (y ddau arall oedd W. Bradwen Jones (gweler JONES, WILLIAM ARTHUR uchod) a W. Albert Williams, a thros gyfnod o tua 40 mlynedd enillodd dros 60 o wobrau yn adran cyfansoddi'r brifwyl. Fe'i hystyrir yn un o gyfansoddwyr Cymreig mwyaf amlochrog a chynhyrchiol ei ddydd, a chyhoeddodd dros 450 o wahanol weithiau cerddorol, yn cynnwys operâu, operetâu, rhan-ganeuon, cantatâu, unawdau, a gweithiau ar gyfer bandiau pres, piano, llinynnau a cherddorfa. Yr oedd hefyd yn awdur nifer o gasgliadau o alawon telyn, baledi, a chaneuon, heblaw llawlyfr buddiol ar ganu penillion a gwerslyfr ar ganu piano (yr unig gyhoeddiad o'i fath gan gyfansoddwr Cymreig) a gyhoeddodd ar ei liwt ei hun yn 1924.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.