MORGAN
,
CHARLES LANGBRIDGE
(‘
Menander
’;
1894
-
1958
),
nofelydd, dramodydd
;
g.
22 Ion. 1894
, yn blentyn ieuangaf
Syr
Charles Langbridge
Morgan
,
peiriannydd
, a
Mary
(g.
Watkins
)
ei wraig. Ymfudodd ei deidiau o
sir Benfro
i
Awstralia
lle y pr. ei rieni. Ymunodd â'r
Llynges
yn
1907
gan ddod yn
swyddog
cyn ymddiswyddo yn
1913
i ennill ei fywoliaeth wrth
lenydda
, er iddo ddychwelyd i'r
llynges
yn ystod y ddau
Ryfel Byd
. Aeth i
Goleg y Trwyn Pres
,
Rhydychen
,
1919-21
, a graddio. Yna ymunodd â'r
Times
, gan ddod yn enwog fel
gohebydd beirniadol ar y ddrama
,
1926-39
. Derbyniodd lawer gradd er anrh. Yr oedd yn un o aelodau dethol estron
l'Institut de France
; etholwyd ef yn
llywydd
yr
English Association
1953-54
a'r
Gyngres Lenyddol Ryngwladol i Awduron
1954-56
. Ac eithrio'i ddwy nofel gyntaf, ysgrifennodd gyfres ddi-dor o gampweithiau llenyddol arbennig o artistig, o arwyddocâd dwfn, a'u traethiad yn rymus ac amrywiol. Dyfarnwyd iddo wobr
Femina-Vie Heureuse
am
Portrait in a Mirror
(
1929
);
gwobr Hawthornden
am
The Fountain
(
1932
); a
gwobr goffa James Tait Black
am
The Voyage
(
1940
). Dramodwyd
The River Line
(
1949
) a'i chynhyrchu yng
ngŵyl Caeredin
yn
1952
.
Yn
Llundain
y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Trwy ei wraig,
Hilda Campbell
Vaughan
o
Lanfair-ym-Muallt
,
nofelydd
a br.,
6 Meh. 1923
, ac a ddug iddo fab a merch (
Ardalyddes Môn
), y daeth, o bosib, i gysylltiad agosaf â
Chymru
.
Cyfansoddwyd ei ddrama gyntaf,
The Flashing Stream
(
1938
), tra oedd ar wyliau ger
Llyn Syfaddan
,
Brych.
Treuliodd ddau gyfnod hir yn
sir Benfro
hefyd, pryd yr ysgrifennodd
A breeze of morning
(
1951
). Ysgrifennodd hanes
cwmni Macmillan
(
1943
); cyhoeddwyd casgliad o'i ddarlithiau ac ysgrifau wedi ei f. yn
The writer and his world
(
1960
). Bu f.
6 Chwef. 1958
.
Llyfryddiaeth:
-
Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price
(yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus
Aberdâr)
;
-
Who was who?
;
-
Eiluned Lewis
,
Selected letters of Charles Morgan with a
memoir
, 1967
(
1967
);
-
Henry Charles Duffin
,
The novels and plays of Charles Morgan
,
Llundain, 1959
(
1959
);
-
D. Crystal
,
The Cambridge Biographical Dictionary
,
Caergrawnt, 1994?
(
1994
);
-
gw. hefyd
Times Literary Supplement Index
.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth