MORGAN, IWAN JAMES (1904 - 1966), tiwtor mewn efrydiau allanol a gwleidydd

Enw: Iwan James Morgan
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1966
Priod: Esme Morgan (née Lewis)
Rhiant: John James Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tiwtor mewn efrydiau allanol a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd 1904 yn Nhon-du, Morgannwg, yn fab i John James Morgan (1870 - 1954), prifathro ysgol uwchradd y Garw, 1909-35. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Sir, Pen-y-bont ar Ogwr, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn economeg yn 1926. Enillodd radd M.A. yn 1929 am draethawd yn olrhain y mudiad i sicrhau prifysgol yng Nghymru yn y 19eg ganrif. Bu'n darlithio mewn dosbarthiadau nos a chyrsiau allanol mewn nifer o ganolfannau yng Nghymru, gan gynnwys Coleg Harlech, am rai blynyddoedd cyn cael ei benodi yn 1935 yn diwtor a gofal am Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Arhosodd yn y swydd hon hyd at ei farw. Daeth yn ddarlithydd a darlledwr poblogaidd ar bynciau hanesyddol, rhyngwladol, economaidd a chymdeithasol. Bu'n aelod o Blaid Cymru yn y tridegau ond anghytunai ag agwedd Saunders Lewis at Sosialaeth ac ymunodd â'r Blaid Lafur. Dewiswyd ef yn ddarpar ymgeisydd seneddol Llafur ar gyfer etholaeth Ceredigion yn 1940, a safodd yn erbyn Roderick Bowen yn 1945 ac 1950. Cyhoeddodd yn 1943 y pamffledi yn Attlee's reply yn dilyn ymateb y Dirprwy Brif Weinidog i'r gofyn am ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Daliodd yn ffyrnig yn erbyn Comiwnyddiaeth ar hyd ei oes. Ef a olygodd y gyfrol The college by the sea (1928), casgliad o atgofion am G.P.C., Aberystwyth. Cyhoeddodd yn ogystal nifer fawr o erthyglau mewn cylchgronau a phapurau newydd ar bynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Etholwyd ef yn aelod o lys a chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1944.

Priododd Esme Lewis, Caerau, Maesteg. Bu farw 1 Ebrill 1966 yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.