MICHAELIONES
,
THOMAS
(
THOMAS MICHAEL JONES
;
1880
-
1960
),
offeiriad a pherchennog gwaith aur
;
g.
1 Mai 1880
yn fab
Thomas
ac
Ellen Michael
Jones
,
24 Baptist St.
,
Pen-y-groes, Caern.
Mynychodd ysgolion
Pen-y-groes
a
Phorthaethwy
a bu'n
fyfyriwr lleyg
yng
Ngholeg Diwinyddol yr Annibynwyr
yn
Aberhonddu
(
1905-06
). Bu'n
newyddiadurwr
am gyfnod byr ond yn
1911
cafodd
fedydd esgob
yn
Llanllyfni
ac aeth yn
giwrad
ym
Mlaenau Ffestiniog
(
1917-20
),
Caergybi
(
1920-24
) a
Llanwnog
(
1924-29
), cyn cael
rheithoriaeth
S. Beuno
,
Pistill, Caern.
, a gofal eglwysi
Llithfaen
a
Charn-guwch
(
1929-60
). Yn
1924
cyhoeddodd dri llyfryn o farddoniaeth
Saesneg
a'r flwyddyn ddilynol cyfansoddodd benillion i'r ‘
Union Jack
’ ar gyfer cystadleuaeth. Dewiswyd hwy i'w cyhoeddi gan gwmni o
Lundain
gydag alaw bwrpasol gan
Arthur
Selaw
. Cymerai
Thomas
Michaeliones
ddiddordeb mewn hynafiaethau a hanes yr Eglwys
, gan gyhoeddi nifer o bamffledi, ar eglwysi ardal
Nefyn
yn fwyaf arbennig. Adnewyddodd
eglwys Pistill
a fu ar gau am gyfnod hir, ac ymdrechodd i arbed eglwys hynafol
Carn-guwch
rhag mynd yn adfail. Yr oedd yn gymeriad hynod, ac un o'i liaws diddordebau oedd
cloddio am aur
ar dyddyn
Graigwen
a brynodd yn
nyffryn Mawddach
. Bu'n
berchen y gwaith aur
yno o tuag
1938
nes ei gau yn
1953
. Derbyniwyd ei gynnig i gyflenwi'r aur at wneud modrwy briodas y
Dywysoges
Elizabeth
yn
1950
. Newidiodd ei enw pan br. (1), yn
1916
, â
Janet
Chadwick
(m.
1940
). Bu iddynt dair merch a mab. Pr. (2) â
Constance Mary
Weighill
yn
1942
a ganwyd iddynt un ferch. Bu ef f.
24 Ebr. 1960
yn ei gartref,
Gwerindy
,
Pistill
.
Llyfryddiaeth:
-
Taliesin
, 1, 30-42;
-
Carnarvon and Denbigh Herald
, 1832
ff
,
29 Ebr. a 6 Mai 1960
;
-
Yr Herald Cymraeg (a'r Genedl)
,
2 Mai 1960
;
-
Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir
Feirionydd
, 7 (
1973-76
), 170-1;
- papurau ordeinio esgobaeth Bangor B/O/1638 ac 1678 yn LlGC.
Awdur:
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth