Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , ROBERT (‘ Llwyd o'r Bryn ’; 1888 - 1961 ), eisteddfodwr, diddanwr ac amaethwr ; g. ym Mhenybryn , Bethel , Llandderfel, Meir. , 29 Chwef. 1888 , yn blentyn ieuengaf John a Winifred Lloyd , a bedyddiwyd ef gan Michael D. Jones ( Bywg. , 466) . Fe'i haddysgwyd yn ysgol y Sarnau ac ar ôl cyfnod o ffermio gyda'i dad, pr. yn 1913 ag Annie Williams , Derwgoed , Llandderfel . Ffermio 'r Derwgoed y bu wedyn nes ymddeol yn 1944 . Yn y cyswllt hwn, yr oedd gyda'r cyntaf yng Nghymru i symbylu arbrofi gydag imwneiddio buchesi rhag TB (gw. Richard Phillips , Pob un â'i gwys ( 1970 ), 86).

Am y rhan fwyaf o'i oes bu'n arweinydd a beirniad mewn llu o eisteddfodau gogledd a chanolbarth Cymru ; bu'n un o hyrwyddwyr Eist. Gen. gyntaf Urdd Gobaith Cymru yng Nghorwen yn 1929 . Rhwng 1938 ac 1950 ef oedd arweinydd ffraeth Parti Tai'rfelin (gw. Robert Roberts isod) a fu'n cynnal cyngherddau trwy Gymru a chyda chymdeithasau Cymraeg yn Lloegr . Cymerth ran yn fynych hefyd mewn rhaglenni darlledu a theledu .

Yr oedd ganddo ddawn y cyfarwyddiaid i adrodd stori ar lafar ac ar lyfr . Gwelir hyn yn ei gyfrol hunangofiant Y Pethe ( 1955 ), teitl a ddaeth wedyn i sefyll am y gwerthoedd a'r traddodiadau a gysylltir â'r bywyd Cymraeg ar ei orau. Yn 1966 cyhoeddwyd cyfrol o'i lythyrau, sef Diddordebau , wedi eu golygu gan ei nai, Trebor Lloyd Evans , a chyhoeddwyd casgliad o'i ysgrifau i'r Welsh Farm News a chyfnodolion eraill, Adlodd Llwyd o'r Bryn , gan ei ferch, Dwysan Rowlands , yn 1983 . Ar ôl ymddeol, bu hefyd yn darlithio ar fywyd a diwylliant gwledig mewn llu o ganolfannau. Ceir disgrifiadau ohono gan Robin Williams yn Y tri Bob ( 1970 ) ac yn Portreadau'r Faner ( d.d. ). Bu f. 28 Rhag. 1961 ac fe'i claddwyd ym mynwent Cefnddwysarn . Yn 1963 , sefydlwyd Gwobr Llwyd o'r Bryn am adrodd yn yr Eist. Gen. er cof amdano.

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth gan Dwysan Rowlands ;
  • adnabyddiaeth bersonol.

Awdur:

David Tecwyn Lloyd (1914-92), Corwen