Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , Syr JOHN CONWAY ( 1878 - 1954 ), gŵr cyhoeddus Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil - Cyfraith - Milwrol ; g. 19 Ebr. 1878 , ym mhlas Dinas , Brych. , unig fab Thomas Conway Lloyd a'i wraig Katherine Eliza (g. Campbell-Davys , Neuadd-fawr , ger Llanymddyfri ). Bu f. ei fam ac yntau ond pedair oed, a chollodd ei dad yn 1893 . Addysgwyd ef yn Ysgol Broadstairs , Ysgol Eton , a Choleg Eglwys Crist , Rhydychen . Yn 1899 aeth i'r cyfandir, a chyfarfod yn Fflorens â Marion Clive Jenkins . Pr. hi yn Farnborough , 14 Chwef. 1903 , a bu iddynt dri mab a dwy ferch. Ymsefydlodd yn hydref y flwyddyn honno yn ei hen gartref, Dinas , a dechrau cymryd rhan ym mywyd cyhoeddus sir Frycheiniog . Bu'n ynad heddwch o 1900 a'i wneud yn gadeirydd y Sesiwn Chwarter yn 1934 , aelod o gyngor tref Aberhonddu o 1909 , a'r cyngor sir o 1913 . Ef oedd y siryf yn 1906 a gwnaed ef yn farchog yn 1938 . Dechreuodd ymddiddori yn y milisia yn 1909 . Dyrchafwyd ef yn gapten yn nhrydedd gatrawd y South Wales Borderers yn Ebr. 1914 ac aeth allan i Ffrainc ddechrau 1915 . Clwyfwyd ef ym mis Mai a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo. Yn 1919 penodwyd ef yn ddirprwy brofost marshal , gyda rheng Cyrnol yn y fyddin ar y Rhein . Ymhen tipyn gallodd ailgydio yn Dinas , ond bu raid ei adael pan gymerwyd ato gan y fyddin yn 1941 ac aeth i fyw yn Abercynrig .

Cynrychiolodd y cyngor sir ar lawer o gyrff cyhoeddus megis llysoedd yr Amgueddfa Genedlaethol a cholegau'r Brifysgol yn Aberyswyth a Chaerdydd . Bu'n aelod o nifer o bwyllgorau a'i wneud yn gadeirydd pwyllgor addysg ei sir yn 1950 . Gweithiodd yn ddygn yn 1936 i gael y llywodraeth i wneud heol A40 yn briffordd, ac yn 1946 ymdrechodd yn aflwyddiannus i gadw hunaniaeth heddlu Brycheiniog ond wedi ei uno â heddluoedd Trefaldwyn a Maesyfed daeth yn gadeirydd y corff newydd hyd 1953 . Yn ystod Rhyfel Byd II gweithiodd yn gydwybodol fel rheolwr rhagofal cyrchoedd awyr yn ei sir. Ar waethaf ei addysg Seisnig, daeth i gymryd diddordeb dwfn yn hanes ei sir a cheisiodd ffurfio cymdeithas hynafiaethol yn 1924 . Ni chafodd ddigon o gefnogaeth bryd hynny, ond cychwynnwyd amgueddfa yn lle hynny. Pan oeddynt yn brin o arian i orffen addasu capel Saesneg (A) i gadw'r creiriau darbwyllodd Arglwydd Buckland (gw. Teulu Berry uchod) i roi £300 tuag at gwblhau'r gwaith a rhodd flynyddol am 7 ml. i gynorthwyo rhedeg y lle. Gwnaed J. C. Lloyd yn ysgrifennydd yr amgueddfa a chasglodd laweroedd o eitemau i'w harddangos . Ef a gychwynnodd y mudiad i adfer adeiladau hynafol Tretŵr . Yn 1952 anogodd y cyngor sir i roi cofeb fwy teilwng i Lywelyn ap Gruffydd ( Bywg. , 564) yng Nghefn-y-bedd na'r un a godwyd hanner canrif ynghynt gan S.P.M. Bligh ( Bywg. 2, 3) ond ni chafodd fyw i weld dadorchuddio'r gofeb yn 1956 .

Bu f. 30 Mai 1954 , amlosgwyd ei weddillion, ac aethpwyd â'i lwch i'w gladdu ym mynwent Mailleraye-sur-Seine ym medd ei fab ieuangaf, John Richard , a gollodd ei fywyd 22 Meh. 1940 pan saethwyd ei awyren i'r llawr ger Rouen . Collasai ei fab hynaf, Thomas Clive Conway , cyn dechrau'r rhyfel, ar fwrdd Thetis , 2 Meh. 1939 .

Llyfryddiaeth:

  • Brycheiniog , 1, ( 1955 ), 7-8; 4 ( 1958 ), 1-52.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth