Yr oedd yn wraig o bersonoliaeth gref. Dechreuodd ysgrifennu cerddi, erthyglau ac ystorïau i'w cyhoeddi yn 1896 pryd yr ymddangosodd cerdd yn Wales , a pharhaodd i wneud hynny hyd tuag 1940 . Cyhoeddwyd ei gwaith mewn cylchgronau di-rif, gan gynnwys The Gentleman's Magazine ( c. 1905 ), The Field and the Queen ( c. 1905-14 ), The Bookman , Fishing Gazette , 1923-31 , T. P.'s and Cassell's Weekly , 1927 , Every woman's world ( Toronto ), a Western Home monthly ( Winnipeg ); hefyd yn y Western Mail , Cambrian News a phapurau eraill. Ymhlith ei llyfrau y mae Picturesque Aberayron ( 1899 ), ac A guide to Aberaeron and Aeron valley ( 1922 ). Dysgodd ysgrifennu Cymraeg a bu'n ddarllenydd diwyd ( 1924-33 ) o weithiau Lewis Glyn Cothi ar gyfer Geiriadur Prifysgol Cymru . Ceir ei chyfieithiad o ddarnau o waith Dafydd ap Gwilym yn The life and poems of Dafydd ap Gwilym ( 1915 ). Ymhlith ei llsgrau. yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ceir ysgrif yn Gymraeg (‘ O Neuaddlwyd i Madagascar ’), a ‘ Theatres of West Wales ’. Cyfrifid hi'n awdurdod ar straeon gwerin Cymru . Cyhoeddwyd ei stori ‘ Hywel of Claerwen ’ yn nhrafodion Eist. Gen. Bangor 1902 , ac ymddangosodd eraill yn Dream folk and fancies ( 1926 ). Y gwaith a ddaeth â hi i amlygrwydd oedd Out with the Cambrians ( 1934 ), sef ei hatgofion am wibdeithiau gyda Chymdeithas Hynafiaethau Cymru y bu hi'n aelod o'i phwyllgor am flynyddoedd lawer. Derbyniwyd hi'n aelod o Orsedd y Beirdd yn 1916 a bu'n aelod o Lys llywodraethwyr C.P.C. , a Ll.G.C. o 1940 ymlaen.
Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth