Fel ‘ Joni Bardd ’ y cyfeirid ato'n gyffredinol yn y fro a chyflawnodd swyddogaeth y bardd gwlad yn gydwybodol. Yr oedd ganddo ddiddordeb ysol mewn barddoniaeth Gymraeg a Saesneg ac yn arbennig mewn casglu a chyhoeddi gwaith rhai o feirdd ei ardal a'r cymdogaethau agos. Golygodd beth o weithiau Ap Alun Mabon : Gwrid y Machlud ( Blaenau Ffestiniog , 1941 ); Ioan Brothen : Llinell neu Ddwy ( Blaenau Ffestiniog , 1942 ); Gwilym Deudraeth : Yr Awen Barod ( Llandysul , 1943 ); Rolant Wyn : Dŵr y Ffynnon ( Blaenau Ffestiniog , 1949 ), ac R.R. Morris : Caneuon R. R. Morris ( 1951 ). Un o'i gyfeillion agos oedd Ellis Humphrey Evans (‘ Hedd Wyn ’, Bywg. , 214) a chynorthwyodd J.R. Jones gyda chyhoeddi Cerddi'r bugail . Rhoddodd beth cymorth i gasglu cynnwys O Drum i Draeth Eliseus Williams (‘ Eifion Wyn ’, Bywg. , 974) ac i wneud cofiannau i Owen Griffith Owen (‘ Alafon ’, Bywg. , 676) a John John Roberts (‘ Iolo Caernarfon ’, Bywg. , 817) . Cynorthwyodd rywfaint ar T. Gwynn Jones ( Bywg. 2, 33-4) yn ogystal, i gasglu ar gyfer y gyfrol Welsh Folklore . Ymhyfrydai'n arbennig yn ei gyfeillgarwch â T. Gwynn Jones a chafodd nifer o lawysgrifau oddi wrtho, yn cynnwys awdl Gwlad y Bryniau ‘wedi i'r bardd ei hun ei hysgrifennu’.
Darlithiodd lawer ar feirdd ei fro mewn cymdeithasau llenyddol a chasglodd doreth o weithiau beirdd a llenorion Gwynedd , e.e., Alafon , Elfyn , Isallt , W. Pari Huws , Gwilym Prysor , Carneddog , Glaslyn , Barlwydon , Gwilym Morgan , Awena Rhun , Glyn Myfyr , Llifon , ac eraill. Gofalodd hefyd bod beirdd, llenorion a cherddorion y cylch yn cael eu coffäu'n deilwng. Trefnodd i gael carreg fedd arbennig i Robert Owen Hughes (‘ Elfyn ’, Bywg. , 368-9) a chofgolofn (carreg o Gwm Pennant ) i ‘ Eifion Wyn ’ . Gyda chyfaill arall, a T. Gwynn Jones , mynnodd weld gosod carreg las ar fedd Robert Roberts , ‘ Y Sgolor Mawr ’ ( Bywg. , 823-4) ym mynwent Llangernyw . Bu'n gyfrifol am y gofeb ger cartref Thomas Lloyd (‘ Crych Elen ’, Bywg. , 556) , yn Nolwyddelan - daeth yr arian at hyn oddi wrth wraig o'r Amerig . Gofalodd am godi maen coffa i Edward Stephen (‘ Tanymarian ’, Bywg. , 867) yn Rhyd Sarn , Dyffryn Maentwrog , a threfnodd gyfarfod coffa i ddadorchuddio cofeb i Forgan Llwyd ( Bywg. , 561) yng Nghynfal Fawr . Yn ddiweddarach casglodd a golygodd gyfrol goffa sylweddol i'r llenor o Gynfal , Morgan Llwyd o Wynedd. Coffa Morgan Llwyd ( 1952 ). Casglodd arian yn ogystal at gronfa goffa Syr O. M. Edwards . Bu'n ohebydd cyson i newyddiaduron a chylchgronau ei gyfnod : Y Glorian ; Y Rhedegydd (llawer iawn i hwn, am flynyddoedd); Y Genedl (cyfrannodd golofn wythnosol iddi am rai blynyddoedd-‘ Nodion Meirion ’); Yr Herald Cymraeg (amryw o ysgrifau ar feirdd a llenorion); Y Brython ; Y Faner ; Y Dydd ; Y Cymro (yma yr ymddangosodd y golofn boblogaidd ‘ Y Fainc Sglodion ’); Cymru ; Y Genhinen ; Cymru'r Plant ; Trysorfa'r plant ; Y Drysorfa fawr ; Yr Eurgrawn ; Yr Haul ; Y Goleuad ; Seren Cymru . Ychydig cyn ei farw gwelodd gyhoeddi Y Fainc sglodion: casgliad o rai o straeon y chwarel a'r capel … ( 1953 ). Dros gyfnod hir o flynyddoedd anfonodd ddefnyddiau amrywiol a gwerthfawr (yn enwedig i'r hanesydd cymdeithasol) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru , yn cynnwys llyfrau-lloffion niferus: cannoedd o lythyrau (rhai personol a rhai gan Gymry amlwg): llsgrau.'n cynnwys gwaith amryw feirdd a llenorion; dogfennau amrywiol, megis cyfrifon sefydliadau, crefftwyr a diwydiannau lleol; cofnodion ac adroddiadau cyrff eglwysig a seciwlar; cerddi ac anerchiadau etholiadol — lleol a sirol; chwedlau lleol; rhaglenni eisteddfodau, cyngherddau a chymdeithasau llenyddol; darluniau o frodorion Ffestiniog ; cerddi a chardiau coffa. Anfonodd ddefnyddiau tebyg i lyfrgell Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor . Bu f. 6 Ion. 1954 , yn ei gartref, a chladdwyd ef gyda'i briod (a'i rhagflaenodd o ddeuddeng ml.) ym mynwent Bethesda , Blaenau Ffestiniog . Yr oedd yn esiampl nodedig o werinwr diwylliedig , parod ei gymwynas, a'i ofal am “y pethe’ yn ysgogi ei holl weithgarwch.
Dr Meredydd Evans, Cwmystwyth