JONES, WATKIN ('Watcyn o Feirion'; 1882 - 1967), post-feistr, siopwr, bardd gwlad, gosodwr a hyfforddwr cerdd dant

Enw: Watkin Jones
Ffugenw: Watcyn O Feirion
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1967
Priod: Annie Jones (née Thomas)
Plentyn: Elizabeth May Watkin Mrowiec (née Jones)
Plentyn: Watkin L. Jones
Rhiant: Elizabeth Jones (née Watkin)
Rhiant: Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: post-feistr, siopwr, bardd gwlad, gosodwr a hyfforddwr cerdd dant
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Aled Lloyd Davies

Ganwyd 12 Mehefin 1882 yn Nhŷ'r nant, Capel Celyn, Meirionnydd, yn fab i Robert Jones ac Elisabeth (ganwyd Watkin). Cadwai Swyddfa'r Post a siop yng Nghapel Celyn a bu'n cario'r post yn ardal Capel Celyn ac Arennig am gyfnod o dros hanner can mlynedd, gan gerdded oddeutu 15 milltir bob dydd.

Ar ei aelwyd ddiwylliedig magodd deulu o ddatgeiniaid. Yr oedd ganddo lais cyfoethog, a llawer o grebwyll cerddorol, ac oherwydd ei fod mor hyddysg ym myd harmoni a gwrthbwynt, bu'n arholwr allanol i'r Coleg Tonic Sol-ffa am flynyddoedd. Yr oedd hefyd yn gynganeddwr medrus ac yr oedd Cerdd dafod Syr John Morris-Jones ar flaenau ei fysedd. Enillodd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol. Gwnaeth gyfraniad sylweddol i ledaenu'r gelfyddyd o ganu gyda'r tannau yn y 1940au a'r 1950au, gan deithio ymhell ac agos i gynnal dosbarthiadau gosod. Yn ystod yr un cyfnod byddai'n llunio gosodiadau i lawer iawn o ddatgeiniaid llai profiadol. Bu'n arweinydd ar gôr cerdd dant Cwmtirmynach am flynyddoedd, a daeth llawer o lwyddiannau eisteddfodol i'w rhan. Lluniodd lawer cainc osod hefyd sy'n dal yn boblogaidd gyda gosodwyr heddiw, megis 'Murmur Tryweryn' a'r 'Ffrwd Wen'. Bu ganddo ran amlwg iawn yn sefydlu Cymdeithas Cerdd Dant Cymru gan mai ef oedd un o'r tri a alwodd ynghyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn y Bala ar 10 Tachwedd 1934 a arweiniodd at sefydlu'r Gymdeithas. Ef fu ei thrysorydd o'i chychwyn hyd 1950.

Priododd ag Annie Thomas 13 Ebrill 1906 a bu iddynt saith o blant. Un o’u plant oedd Elizabeth May Watkin Jones. Bu farw ym Mod Athro, Dinas Mawddwy, 14 Chwefror 1967.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.