JONES, OWEN THOMAS (1878 - 1967), athro daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt

Enw: Owen Thomas Jones
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1967
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Emrys George Bowen

Ganwyd 16 Ebrill 1878 ar fferm Plasnewydd, Beulah, ger Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn unig fab David a Margaret (ganwyd Thomas) Jones. Cafodd ei addysg yn ysgol Frytanaidd Tre-wen ac ysgol ramadeg Pencader. Nes mynd i'r ysgol ramadeg, Cymraeg yn unig a siaradai, a thrwy gydol ei fywyd siaradai ac ysgrifennai'r Gymraeg gyda'r rhwyddineb mwyaf. Profodd ei hun yn ddisgybl disglair eithriadol yn yr ysgol ramadeg, a phasiodd arholiad tystysgrif y College of Preceptors yn y dosbarth cyntaf yn 1894, a'r flwyddyn wedyn cafodd yr un dosbarth yn arholiad 'matriculation' Prifysgol Cymru. Yn 1896 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gydag Ysgoloriaeth Keeling mewn gwyddor naturiol. Dilynodd gyrsiau mathemateg, cemeg, botaneg a sŵoleg a chael anrhydedd dosbarth I mewn ffiseg yn 1900. Aeth ymlaen i Goleg y Drindod, Caergrawnt gydag ysgoloriaeth agored a dechrau arbenigo mewn daeareg a mwynyddiaeth. Cafodd ddosbarth I yn rhan I Tripos Gwyddor Naturiol yn 1902, gan ennill gwobr Wiltshire. Y flwyddyn wedyn cafodd ddosbarth I yn ail ran y Tripos ac ef a ddaliai wobr Harkness mewn daeareg yn 1904. Wedi graddio a sylweddoli pwysigrwydd gwaith maes mewn astudiaethau daearegol aeth i weithio gyda'r Arolwg Ddaearegol ar estyniad maes glo de Cymru tua'r gorllewin yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin a Phenfro. Ochr yn ochr â'i ddyletswyddau swyddogol parhaodd i ddilyn astudiaethau ymchwil personol helaeth. Yr oedd cyfeiriad y rheini eto tuag at Gymru, ac yn 1909 cyhoeddodd bapur pwysig ar ffurfiant daearegol ardal Pumlumon. Hwn o hyd yw'r gwaith safonol ar greigiau Palaeosoig isaf canoldir Cymru, ac ar lawer cyfrif y gwaith safonol ar ddosbarthiad y creigiau hyn dros yr holl fyd. Erbyn hyn cyrhaeddasai reng flaenaf y daearegwyr a dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.Sc. iddo yn y flwyddyn honno. Yn 1909 hefyd y penodwyd ef yn ddarlithydd mewn daeareg yn ei hen goleg yn Aberystwyth a'i ddyrchafu i'r Gadair yno yn 1910. Y flwyddyn honno hefyd y cafodd wobr Sedgwick am draethawd ar ddaeareg, gwobr a fawr chwenychir. Yr oedd yn athro a chyfarwyddwr ymchwil godidog a throm fu dyled cenedlaethau o ddaearegwyr iddo.

Ar derfyn Rhyfel Byd I yn 1918 bu newid mawr ym mhrifysgolion Prydain, ond eto yr oedd cyflogau Athrawon yn aros ar lefel isel. Nid oedd grantiau ymchwil y pryd hwnnw ac yr oedd yn rhaid i wŷr o safon O. T. Jones ddibynnu ar eu hadnoddau eu hunain am yr arian angenrheidiol ar gyfer eu hymchwil personol. Yr oedd y sefyllfa mewn daeareg yn fwy difrifol am y gofynnai am waith maes eang. Deuai cynigion deniadol o dâl uwch iddo oddi wrth brifysgolion agos at Gymru, fel Lerpwl a Manceinion, ond yr oedd ei gariad dwfn at fywyd gwledig Cymru a'i ddiddordeb ynddo yn rhwystr arno. O'r diwedd ildiodd i eiriau teg Prifysgol Manceinion a phenodwyd ef yn Athro Daeareg yno yn 1919, ac arhosodd yno hyd 1930 a'i benodi yn Athro Daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle y bu nes ymddeol yn 1943.

Dros yr hanner canrif, 1910-60, cyhoeddodd bapurau proffesiynol a llyfrau niferus, fwy nag un y flwyddyn yn aml, yn ymwneud yn agos â holl rychwant astudiaethau daearegol, o ddaeareg Cymru i ddaeareg silffoedd cyfandirol mawr yr ynysoedd Prydeinig a'u problemau geoffisegol. Galwai'r gwaith hefyd am astudio rhannau o Ogledd America fel yr ymestynnai o stratigraffi pur i gynnwys palaeontoleg ac ymwthiadau igneaidd. Câi daeareg Cymru, yn arbennig ei chreigiau Palaeosoig isaf, le yn ei weithiau diweddaraf. Y mae'n ddiddorol sylwi i'w ddiddordebau pan oedd yng Nghaergrawnt dueddu'n drwm at fwynyddiaeth ac i'r wedd hon ar ddaeareg ffrwytho yn ei waith gyda chyhoeddi gan H.M.S.O. yn 1922, y gwaith safonol ar gloddio am fwyn plwm a sinc yng ngogledd Ceredigion a gorllewin Maldwyn. Ceir astudiaeth fanwl o bob gwythïen a phob mwynglawdd yn y gwaith hwn a ddefnyddir yn helaeth gan ymchwilwyr diweddar.

Yr oedd O. T. Jones yn Gymrawd, a bu'n Llywydd, y ddwy Gymdeithas Ddaearegol a Mwynyddiaethol. Ac yntau'n ysgrifennydd tramor y Gymdeithas Ddaearegol yr oedd mewn cyswllt clòs â chymdeithasau cyfatebol yn arbennig yng ngwlad Belg a'r Taleithiau Unedig. Ef oedd doyen cydnabyddedig ryngwladol daearegwyr Prydain. Etholwyd ef yn F.R.S. a derbyniodd Fedal Frenhinol y Gymdeithas honno yn 1956. Cawsai Fedal Lyell (1926) a Medal Wollaston (1945) y Gymdeithas Ddaearegol, a rhoes Prifysgol Cymru radd LL.D. er anrhydedd, iddo yn 1958.

Priododd Ethel May, merch William Henry Reynolds o Hwlffordd yn 1910, a bu iddynt ddau fab a merch. Bu un mab farw mewn damwain awyren yn 1945. Bu farw 5 Mai 1967.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.