JONES, DAVID MORRIS (1887 - 1957), gweinidog (MC) ac Athro

Enw: David Morris Jones
Dyddiad geni: 1887
Dyddiad marw: 1957
Priod: Esther Ann Jones (née Williams)
Rhiant: Elisabeth Jones
Rhiant: William Maurice Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (MC) ac Athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 14 Mawrth 1887 ym Maes-y-groes, Maenan, Sir Gaernarfon, mab William Maurice ac Elisabeth Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac ysgol rad Llanrwst, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Cymraeg ac athroniaeth), Coleg y Bala, a Chaergrawnt. Ymunodd â'r fyddin yn 1915, ond galwyd ef adref o Salonica yn 1916 i gael comisiwn fel caplan i'r catrodau Cymreig yn Ffrainc; ac ordeiniwyd ef yr un flwyddyn. Enillodd yr M.C. am wrhydri wrth roi ymwared i glwyfedigion. Bu'n weinidog yng Ngorffwysfa, Sgiwen (1920-24), Blaenau Ffestiniog (1924-29), a'r Triniti, Abertawe (1929-34). Penodwyd ef yn Athro Athroniaeth Crefydd a hanes crefyddau yng Ngholeg Diwinyddol Aberystwyth, a bu yno hyd ei ymddeoliad yn 1953. Priododd, 1916, Esther Ann Williams, Pwllheli, a ganwyd iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw 8 Hydref 1957, ac yntau'n llywydd Sasiwn y De ar y pryd.

Yr oedd yn ysgolhaig trwyadl. Bu'n llywydd adran diwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, ac ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn Diwinyddiaeth. Traddododd y Ddarlith Davies yn 1953 ar y testun ' Duw y creawdwr a Duw y gwaredwr ', ond nis cyhoeddodd. Cyhoeddodd dair cyfrol yn ei ddydd, sef Efengyl Ioan a'i Hystyr (1944), esboniad ar yr epistol cyntaf at y Corinthiaid (1952), a Llên a dysgeidiaeth Israel hyd gwymp Samaria (1929).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.