JONES, PERCY MANSELL (1889 - 1968), Athro Ffrangeg

Enw: Percy Mansell Jones
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1968
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro Ffrangeg
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Garnet Rees

Ganwyd 11 Ebrill 1889 yn fab i Arnaud Johnson Jones, Caerfyrddin. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin cyn mynd i Goleg Prifsgol Cymru Aberystwyth, yn 1908 lle y cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg a gradd M.A. Yna aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, a graddio'n B.Litt. Yr oedd yn ddarlithydd dylanwadol a allai ysgogi'i fyfyrwyr, ac wedi cyfnodau yn adrannau Ffrangeg C.P.C., Aberystwyth, Coleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd, ac yng Nghaergrawnt, penodwyd ef yn Athro Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1937. Yn 1951 aeth i Brifysgol Manceinion fel ei Hathro cyntaf mewn llenyddiaeth Ffrangeg Fodern. Cafodd radd D.Litt., er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru yn 1960, yn fuan wedi iddo ymddeol.

Denwyd ef i astudio barddoniaeth Ffrangeg ddiweddar; gyda'i sensitifrwydd a'i ddeallusrwydd cynhenid, llwyddodd i fwrw goleuni ar feysydd ei astudiaeth mewn llyfrau megis Emile Verhaeren (1926 ac 1957) a Baudelaire (1952). Dengys ei argraffiad newydd pwysig o The Oxford book of French verse (1957) chwaeth sicr yn ei ddewis o gerddi, yn arbennig o gyfnod Baudelaire ymlaen. Dengys y casgliadau o'i ysgrifeniadau ar bynciau mwy cyffredinol - Tradition and barbarism (1930), French introspectives (1937) a The background of Modern French poetry (1951) - ei ddiddordeb ym meddwl Ffrainc a materion cyfoes Ffrengig. Yn y 1950au cymerodd ran flaenllaw yn y dadleuon brwd a geid bryd hynny ar swyddogaeth prifysgolion yn y byd wedi'r rhyfel ac yn arbennig lle'r dyniaethau mewn oes dechnolegol. Mab gweddw ydoedd a chanddo lu o gyfeillion; a bregus fu ei iechyd gydol ei fywyd. Fel ' P.M. ', gydag anwyldeb edmygus, yr adweinid ef gan bawb. Yr oedd yn ddarlithydd derbyniol iawn yn y prifysgolion, a'i hiwmor, ei wyleidd-dra, y modd sicr y cyhoeddai'r gwerthoedd llenyddol, a'r pleser a gâi mewn ysgolheictod yn esiamplau gwiw i'w hefelychu. Bu farw 24 Ionawr 1968.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.