JONES, ELIZABETH JANE LOUIS (ganwyd ELIZABETH JANE LLOYD; 1889 - 1952), ysgolhaig

Enw: Elizabeth Jane Louis Jones
Dyddiad geni: 1889
Dyddiad marw: 1952
Priod: E. Louis Jones
Rhiant: Elizabeth Lloyd (née Edwards)
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Elizabeth Eirliw Louis (Bethan) Jones

Ganwyd 28 Ebrill 1889 yn Llanilar, Ceredigion, unig blentyn John Lloyd, marchnatwr coed, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Edwards). Cafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol y Sir, Aberystwyth ac oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac yn 1911 graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Cymraeg. Dyfarnwyd iddi Gymrodoriaeth gan y Brifysgol ar gyfrif ei theilyngdod. Parhaodd i astudio am dair blynedd ymhellach, gan mwyaf yn llyfrgelloedd Llundain a Rhydychen. Yn ystod ei chyfnod yn Llundain noddwyd hi a'i hoff gyfaill Morfydd Llwyn Owen gan Syr John Herbert Lewis a'i wraig, Ruth. Yn 1912 enillodd y wobr a'r fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecscam am y prif draethawd ar Hanes yr Eisteddfod. Yn y flwyddyn ddilynol enillodd radd M.A. am ' The history of the Eisteddfod '. Penodwyd hi yn 1916 yn ddarlithydd mewn Cymraeg a Saesneg yn y Coleg Normal, Bangor. Yn 1917 priododd E. Louis Jones, cyfreithiwr o Lanfyllin, mab Dr. Richard Jones, Harlech, a bu iddynt bedwar o blant ond bu dau ohonynt farw yn ifanc. Yn 1928 cyhoeddodd gyda'r Athro Henry Lewis, Mynegai i farddoniaeth y llawysgrifau, 1928). Bu farw 14 Mai 1952 yn Wrecsam, a chladdwyd hi yn Llanfyllin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.