JONES
,
LLEWELYN
(
1894
-
1960
),
gweinidog (MC), golygydd ac awdur
;
g. yn
1894
yn
Llandegfan
,
Môn
, yn fab i
J. E.
Jones
,
gweinidog (MC)
a'i briod o'r lle hwnnw. Addysgwyd ef yn
ysgol sir Caergybi
,
Coleg y Brifysgol
,
Bangor
(lle graddiodd yn y celfyddydau), a
choleg Mansfield
,
Rhydychen
(lle cafodd radd
B.Litt.
). Cafodd radd
M.A. Prifysgol Cymru
yn
1921
am draethawd ar emynyddiaeth y
Diwygiad Methodistaidd
gyda sylw arbennig i emynau
Williams
Pantycelyn
. Ord. ef yn
1922
, a bu'n gweinidogaethu ym
Mae Colwyn
(
1922-24
),
Moriah
,
Utica
,
T.U.A.
(
1924-31
), a
Douglas Rd.
,
Lerpwl
(
1931-51
). Penodwyd ef yn
ysgrifennydd cyffredinol
Cymdeithas Genhadol y MC
yn
1951
, ac
ymwelodd â'r meysydd cenhadol
yn
India
,
Pacistan
a
Llydaw
. Pr.,
1926
,
Elizabeth Margaret
Edwards
, a ganwyd iddynt ddau o feibion. Bu f.
24 Rhag. 1960
.
Cyhoeddodd gyfrol ar hanes
Moriah
yn ystod ei gyfnod yn
Utica
. Rhoes wasanaeth mawr i fywyd
Cymreig
glannau Mersi
; sefydlodd aelwydydd
Urdd Gobaith Cymru
yno a golygu
Y Glannau
o
1944
ymlaen. Bu'n
aelod hefyd o fwrdd golygyddol
Y Ffordd
(cylchgrawn pobl ieuainc y
MC
). Cyhoeddodd hefyd
Lawlyfr ar genhadaeth bersonol
yn
1939
.
Ei gyfraniad pwysicaf yw'r gyfrol
Aleluia gan y Parch. William Williams Pant y Celyn
(
1926
), sef arg. diplomatig o rannau I-VI o
Aleluia
,
1744-47
,
Williams
Pantycelyn
, gyda rhagarweiniad gwerthfawr. Gan fod copïau o'r
Aleluia
mor anarferol o brin, y mae'r gyfrol hon o werth amhrisiadwy i efrydwyr emynau
Pantycelyn
.
Llyfryddiaeth:
-
Who's who in the Free
Churches?
, (1951)
, 346;
-
Y Goleuad
,
8 Chwef. 1961
;
-
Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd
,
1962
, 259-60.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe