JONES, THOMAS IVOR (1896 - 1969), cyfreithiwr yn Llundain a Chymro gwlatgar

Enw: Thomas Ivor Jones
Dyddiad geni: 1896
Dyddiad marw: 1969
Priod: Jane Gwyneth Jones (née Hughes)
Rhiant: Jane Jones (née Jones)
Rhiant: John Morris Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr yn Llundain a Chymro gwlatgar
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwladgarwyr
Awdur: Vyrnwy John Lewis

Ganwyd 13 Gorffennaf 1896, yng Nghaer-gai, Llanuwchllyn, Meirionnydd, y seithfed o blant John Morris Jones a'i briod Jane (ganwyd Jones, yng Nghefn-gwyn, Llanuwchllyn). Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref, Llanuwchllyn, yn ysgol sir y Bala, ac yn ysgol sir Tywyn a oedd y pryd hynny'n denu disgyblion o gylch eang. Yr oedd hefyd yn dra dyledus i Owen Ellis, gweinidog (MC) Llanuwchllyn, a'i wraig. Gan Thomas Davies Jones, ei ewythr, brawd ei fam, yr hyfforddwyd ef yng ngwaith y gyfraith. Derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1921 ac ymunodd â chwmni ei ewythr, T. D. Jones a'i Gwmni, Fleet Street, Llundain. Pan fu farw'r ewythr, ef a'i holynodd a phara'n bennaeth y Cwmni weddill ei oes.

Ar hyd y blynyddoedd yn Llundain, yr oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar dros ben yn eglwys MC Charing Cross Road (yn arbennig fel athro Ysgol Sul am gyfnod maith). Yn 1930, codwyd ef yn flaenor; yn fuan wedyn, yr oedd yn gyd-ysgrifennydd a bu'n drysorydd am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn llywydd, ac am lawer blwyddyn yn drysorydd, henaduriaeth Llundain. Drwy gydol yr amser, yr oedd yn gefn i Gymry ifainc a ddeuai i Lundain. Yr oedd yn un o sylfaenwyr The Young Wales Association, sef Cymdeithas Cymry Llundain ar òl hynny, a daliodd sawl swydd ynddi. Ef oedd cadeirydd y cyngor yn 1924 (a'r gymdeithas yn ei phedwaredd flwyddyn), yn 1939 ac yn 1946, ac am lawer o flynyddoedd ef oedd un o ddau gynghorwr cyfreithiol mygedol y gymdeithas. Yr oedd hefyd yn un o'r ymddiriedolwyr a benodwyd gan Syr Howell J. Williams yn 1937 i ddal yr eiddo yn Gray's Inn Road a roesai Syr Howell ar gyfer sefydlu canolfan i Gymry Llundain, a chyflawnodd y ddyletswydd honno hyd ei farw. Bu'n weithgar iawn ynglŷn â sawl achos arall ymhlith Cymry Llundain, yn arbennig Undeb y Cymdeithasau, yr Ysgol Gymraeg ac, yn anad un efallai, Cymdeithas sir Feirionnydd. Cynorthwyodd [Syr] Ifan ab Owen Edwards gyda'r gwaith cyfreithiol a oedd ynglŷn â ffurfio Urdd Gobaith Cymru a pharhaodd yn gynghorwr cyfreithiol i Gwmni'r Urdd. Rhoes gynhorthwy i Syr David James yntau gyda gwaith cyfreithiol ac yr oedd yn aelod o Ymddiriedolaeth Pantyfedwen.

Priododd â Jane Gwyneth, merch hynaf Thomas a Lizzie. (ganwyd Davies) Hughes, Solway, Y Buarth, Aberystwyth. Ganed iddynt un ferch.

Gŵr na fynnai amlygrwydd iddo'i hun oedd Thomas Ivor Jones - digynnwrf ei natur, ond tawel ddireidus hefyd, cadarn ei ffyddlondeb, a chymwynasgar. Bu farw 29 Mawrth 1969, yn 72 oed, a chladdwyd ef yn Llanuwchllyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.