JONES, JOHN ISLAN (1874 - 1968), gweinidog (U), awdur

Enw: John Islan Jones
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1968
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: Evan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (U), awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 17 Chwefror 1874 yn fab Evan a Mary Jones, Tynewydd (Cornant a Melin Llysfaen wedi hynny), Cribyn, Ceredigion. Aeth i ysgolion Cribyn a Llanwnnen (o dan David Thomas, ' Dewi Hefin') nes yr oedd tua deg oed. Ar ôl bod yn was fferm ac yn saer maen gyda'i dad mynychodd ysgol David Evans, gweinidog (U), Cribyn (1896-98). Enillodd ysgoloriaeth, ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen lle y graddiodd yn 1901 cyn mynd i Goleg Manceinion, Rhydychen i baratoi am y weinidogaeth. Enillodd ysgoloriaeth Hibbert a'i galluogodd i fynd i Brifysgolion Marburg a Jena yn yr Almaen yn 1904, ond dychwelodd adref cyn gorffen cwrs gradd Ph.D. oherwydd afiechyd; cafodd radd M.A. yn 1909. Treuliodd anterth ei ddyddiau yn weinidog (U) yn Lloegr : Accrington (1906-09), Bolton (1909-17) a Hindley (1917-39), cyn ymddeol i'w fro enedigol. Ac yntau mewn gwth a oedran gwahoddwyd ef i ddod yn brifathro Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1945; bu yno 3 blynedd a gweinidogaethu i Eglwys Parcyfelfed yr un pryd. Yr oedd yn wr o argyhoeddiadau cryfion, yn hyddysg yn y cynganeddion ac yn arweinydd côr. Cyhoeddodd A brief history of the Unitarian Church, Accrington (1909), Egwyddorion yr Undodiaid (1948), a chyfrol o atgofion, Yr hen amser gynt (1958) a enillodd iddo wobr Pwyllgor Addysg Ceredigion. Ceir ysgrifau ganddo yn Yr Ymofynnydd (1905-59), Cymru, a Trans. Unitarian Historical Society (gweler Glyn Lewis Jones, Llyfryddiaeth Ceredigion 1600-1964). Bu farw yn fab gweddw 28 Mai 1968.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.