Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JAMES IFANO ( 1865 - 1955 ); llyfrgellydd a llyfryddwr ; g. yn Oxford Str. , Aberdâr, Morg. , 15 Mai 1865 yn ôl WWP ; ni chofnodir geni plentyn o'r enw hwn ar y dyddiad hwnnw yng nghofrestr swyddfa gofrestru Pontypridd , ond cofnodir geni James Jones , mab Jane Jones , Harriet Street , Trecynon , ar Fai 14 , a dichon i gamgymeriad gael ei wneud yn y dyddiad. Thomas Jones , glöwr , oedd ei dad a hanai ei fam o Gwm-twrch ; yr oedd yn chwaer i famgu John Dyfnallt Owen (gw. isod) . Addysgwyd y bachgen yn ysgol fwrdd y Parc , a adwaenid ar lafar fel ‘ ysgol y Comin ’, ond gadawodd hi yn 11 oed a mynd i ysgol breifat Owen Rees yn Seymour Str. , Aberdar . Yn 12 oed dechreuodd brentisiaeth yn swyddfa argraffu Tarian y Gweithiwr . Yn 1884 aeth i argraffdy Jenkin Howell ( Bywg. , 346-7) fel cysodydd a darllenwr proflenni , a manteisiodd ar bob cyfle i'w addysgu'i hun. Yn ddiamau y dylanwad mwyaf llesol ar ei fywyd yn y cyfnod hwn oedd Ysgol Sul Capel y Gadlys (B) a'r gweithgareddau crefyddol a diwylliannol a berthynai iddi. Daeth yn ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Aberdâr a'r cylch . Ymddiddorodd mewn cerddoriaeth a bu'n organydd y capel . Denodd y ddrama ei fryd yn gynnar a daeth i enwogrwydd lleol fel actor ac adroddwr . Cymerai ran amlwg mewn gwleidyddiaeth , a phan ffurfiwyd cymdeithas Lafur a Radicalaidd Aberdâr yn 1894 gweithredodd fel ei hysgrifennydd . Ond y profiad a gafodd yn ei grefft argraffu, yn anad dim, a roddodd iddo'r wybodaeth fanwl-gywir o'r iaith Gymraeg ac a'i cymhwysodd at yr yrfa ddisglair a agorodd o'i flaen pan, yn Nhach. 1896 , y cafodd swydd yn Llyfrgell Rydd Caerdydd , fel y'i gelwid ar y pryd, fel catalogwr dros dro yn yr adran Gymraeg . Yn ystod y ddwy fl. nesaf bu'n cydweithio â'r llyfrgellydd John Ballinger ( Bywg. , 21) ar y Catalogue of printed literature in the Welsh department a gyhoeddwyd yn 1898 , gwaith a brofodd yn arf anhepgorol i weithwyr ym maes efrydiau Cymreig, ac nas disodlwyd yn llwyr hyd yn hyn. Drwy ei ran yn yr orchest hon y gwnaeth Ifano 'i enw fel llyfryddwr , a phenodwyd ef i ofalu am yr adran gyfeirio yn 1901 . Yr oedd ei wybodaeth am Gymru a materion Cymreig yn rhyfeddol. Daeth y casgliadau Cymreig i gyd dan ei ofal arbennig ac adwaenid ef yn gyffredinol fel ‘ llyfrgellydd Cymraeg Caerdydd ’, eithr gomeddwyd y teitl swyddogol iddo. Yr oedd ei gynnyrch llenyddol yn enfawr dros y cyfnod. Ymhlith ei weithiau dylid cynnwys adran lyfryddol y Bible in Wales , a gyhoeddwyd ar y cyd gyda John Ballinger yn 1906 ; Bibliography of Wales , cyfres o restrau llyfrau a ddaeth allan o bryd i'w gilydd o 1899 i 1912 ; a'i orchestwaith A history of printing and printers in Wales and Monmouthshire to 1923 , a gyhoeddwyd yn 1925 , ac a enillodd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru er anrh . Cyfrannodd astudiaeth o ‘ Dan Isaac Davies and the bilingual movement ’ i Welsh political and educational leaders in the Victorian era , 1908 , a chyhoeddwyd The early history of Nonconformity in Cardiff , 1912 , a ‘ Sir Mathew Cradock and some of his contemporaries ’ yn Arch. Camb. , 1919 . Ysgrifennodd gofiant W. T. Samuel, ei fywyd a'i lafur yn 1920 . Trodd at feirniadaeth lenyddol gydag erthygl ‘ Llenyddiaeth hanner ola'r ddeunawfed ganrif ’ yn Y Geninen , 1902 (Ion. a Gorff.) . O 1905 i 1929 bu'n olygydd ‘ Y golofn Gymreig ’ yn y S. Wales Weekly News . Yr oedd hefyd yn llenor creadigol. Yn 1905 cyhoeddwyd Rhys ap Tewdwr Mawr , ei ddrama fuddugol yn Eist. Gen. Bangor , 1902 — trasiedi mewn 3 act. Cyhoeddodd nifer o gerddi, tonau, erthyglau ac adolygiadau, a rhestrau llyfrau yn y gweisg Cymraeg a Saesneg . Yr oedd yn eisteddfodwr brwd, yn aelod o Orsedd y Beirdd , ac yn amddiffynnwr glew i'w hynafiaeth. O 1901 ymlaen gweithredodd yn aml fel beirniad yn y brifwyl , a bu'n fuddugol ynddi ar farddoniaeth a dramâu yn 1902 , 1904 , ac 1929 . Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd i gymdeithasau ledled Cymru .

Ymddeolodd ar ddiwedd 1925 . Fe'i surwyd ers amser maith gan ddiffyg cydnabod ei dalentau a'i statws yn ddigonol yn y llyfrgell. Yn ôl Dyfnallt , ei nai’, siom fwyaf ei fywyd oedd peidio â chael ei wahodd i fod yn llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru . Yr oedd diwydrwydd ac amlochredd y dyn digoleg hwn yn syfrdanol. Cofir amdano fel llyfryddwr Cymreig mwyaf ei oes.

Bu'n briod ddwywaith; (1) â Nellie George , merch Thomas George , ‘ fineworker ’, 20 Ion. 1901 yn swyddfa gofrestru Castell-nedd ; bu hi f. yn 1911 , a (2), 1913 , â Jessie Mary , ail ferch Thomas a Mary Charles , Havod House , Blaenafon , a fu f. Meh. 1953 . Bu ef f. yn ei gartref ym Mhenarth , 7 Mawrth 1955 .

Llyfryddiaeth:

  • Mynegai Bywgraffyddol W.W. Price (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Gyhoeddus Aberdâr) ;
  • ‘James Ifano Jones, MA’ Journal of the Welsh Bibliographical Society , 8, 2;
  • Who's who in Wales , 1921 ac 1937 ;
  • Who was who? , 1951-60 ;
  • J. Dyfnallt Owen , ‘F'ewythr Ifano’, Y Tyst , 17 Mawrth 1955 ;
  • cofnodion staff Llyfrgell Caerdydd, trwy garedigrwydd y Llyfrgellydd.

Awdur:

Walter Thomas Morgan (1912-90), Aberystwyth