JONES, DAVID GWYNFRYN (1867 - 1954), gweinidog (EF)

Enw: David Gwynfryn Jones
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1954
Priod: Christina Jones (née Lloyd)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd ym Mryn-crug, Meirionnydd, 1 Tachwedd 1867. Pan oedd yn saith oed symudodd y teulu i Dreorci, ond gan ddychwelyd ymhen dwy flynedd i Fryn-crug, lle cafodd ef ychydig addysg yn yr ysgol Fwrdd. Aeth i weithio i'r lofa yn 12 oed, ond mynnodd beth addysg bellach mewn ysgol breifat yn y Rhondda ac wedyn mewn ysgol ragbaratoawl yng Nghaerdydd. Yn 1890 aeth i Ddinas Mawddwy yn was cylchdaith. Ar ôl ei dderbyn i'r weinidogaeth yn 1894 a'i benodi i Ashton-in-makerfield, teithiodd fel a ganlyn: Ffynnongroyw (1897), Llangefni (1898), Bangor (1901), Caer (1902). Yn 1904 torrodd ei iechyd i lawr ac aeth i Dde Affrica am flwyddyn i geisio adferiad ac yno bu'n weinidog ar eglwys Gymraeg anenwadol Cape Town. Aeth i gylchdaith Llandudno (1905) ac Abermo (1909), ond aeth yn uwchrif am flwyddyn yn 1911 oherwydd afiechyd, ac yn 1912 symudodd i fyw ym Mynydd y Fflint lle arhosodd weddill ei oes yn weinidog heb ofal cylchdaith. Penodwyd ef yn olygydd Y Gwyliedydd Newydd a pharhaodd yn y swydd honno hyd 1940. Ef oedd llywydd y Gymanfa yn 1924. Bu'n ysgrifennydd talaith gyntaf gogledd Cymru 1928-34 a'i chadeirydd 1934-38; bu hefyd yn ysgrifennydd y Llyfrfa am gyfnod. Yr oedd yn rheng flaenaf pregethwyr ei oes. Yn 1938 aeth yn uwchrif a gwnaed tysteb iddo gan y Gymanfa. Daliodd lawer swydd arall: golygydd Y Winllan, ysgrifennydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, ynad heddwch, aelod o gyngor sir y Fflint, llywydd Cynghrair Plaid Lafur Gogledd Cymru, ymgeisydd seneddol Llafur dros sir Fflint yn 1922 ac 1924. Yr oedd yn gyd-awdur Cofiant Glanystwyth (1904) a golygodd Odlau Moliant (1905) at wasanaeth eglwys Gymraeg Cape Town. Darlithiodd lawer ac ysgrifennodd yn gyson i'r cyfnodolion Cymraeg. Priododd Christiana Lloyd a bu iddynt ddau fab. Bu farw 18 Rhagfyr 1954.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.