JONES, ALFRED ERNEST (1879 - 1958), seicdreiddiwr a chofiannydd swyddogol Sigmund Freud

Enw: Alfred Ernest Jones
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1958
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: seicdreiddiwr a chofiannydd swyddogol Sigmund Freud
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Thomas Gruffydd Davies

Ganwyd 1 Ionawr 1879, yn ardal Tregŵyr, ger Abertawe, Morgannwg, yn fab i Thomas a Mary Ann Jones. Symudwyd ef o'r ysgol leol i ysgolion yn Abertawe, ac oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri. Wedi hynny, bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Brifysgol, Llundain, a thra oedd yno, yn 1900, enillodd ddiplomâu Bwrdd Cydweithredol y Colegau Brenhinol (L.R.C.P., M.R.C.S.), a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd radd Prifysgol Llundain mewn meddygaeth (M.B.) ag anrhydedd a medalau aur mewn meddygaeth ac obstetreg, a dyfarnwyd medal aur y brifysgol mewn obstetreg iddo gan Syr John Williams. O fewn pum mlynedd, enillodd gyfres o raddau uwchradd (M.D., a medal aur, M.R.C.P., D.P.H.), ond wedi sawl anghytundeb â phwyllgorau'r ysbytai lle'r oedd yn gweithio, bu'n rhaid iddo ymddiswyddo. Treuliodd rai misoedd yn ymweld â chlinigau ar y cyfandir cyn symud i Toronto fel pennaeth clinig seiciatregol newydd. Ar ei awgrym ef y cynhaliwyd y gyngres seicdreiddiol ryngwladol gyntaf yn Salzburg yn 1908, ac yno y darllenodd ei bapur enwog ar resymoli ('rationalisation').

Fe'i gwnaed yn athro cynorthwyol ym Mhrifysgol Toronto, a gwnaeth lawer i hybu datblygiad seicdreiddiaeth yng ngogledd America. Yn 1913, dychwelodd i Lundain heb obaith am swydd mewn prifysgol nac ysbyty, ac yno y gweithiodd hyd at amser ymddeol. Yn 1929, cynigiodd dystiolaeth i bwyllgor y B.M.A. a arweiniodd at eu hawgrym hwy y dylid cydnabod seicdreiddiaeth fel triniaeth ddilys. Ffurfiodd y Gymdeithas Seicdreiddiol Brydeinig, a'r Sefydliad Seicdreiddiol, a chychwynnodd y clinig seicdreiddiol cyntaf yng ngwledydd Prydain. Bu'n Llywydd y Gymdeithas Seicdreiddiol Brydeinig (1919-1944), a'r Gymdeithasfa Seicdreiddiol Ryngwladol (1920-24; 1930-49), yn sylfaenydd ac yn olygydd y Llyfrgell Seicdreiddiol Rynglwladol, a chyhoeddwyd hanner can cyfrol gan y Llyfrgell dan ei olygyddiaeth. Sylfaenodd yr International Journal of Psycho-Analysis, a bu'n olygydd o 1920 hyd at 1939. Ef oedd arweinydd rhyngwladol y mudiad seicdreiddiol am flynyddoedd lawer, a sicrhaodd y byddai Freud yn cael ei ryddhau o ddwylo'r Natsïaid yn 1938.

Adenillodd ei ddiddordeb mewn materion Cymreig yn y 1920au, a bu'n aelod brwd o'r Blaid Genedlaethol yn fuan wedi ei ffurfio hi, ond er mawr loes iddo, ni ddysgodd siarad Cymraeg yn rhugl. Cofir amdano erbyn hyn fel y gŵr a wnaeth fwyaf i boblogeiddio gwaith Freud trwy gyfrwng yr iaith Saesneg, a chyhoeddodd dros dri chant o erthyglau a dwsin o lyfrau, gan gynnwys ei gofiant i Freud. Eithr ni chafodd gydnabyddiaeth y tu allan i'w faes ei hun am ei waith arloesol dros seicdreiddiaeth, a bu'n rhaid iddo aros bron hyd at ei farwolaeth cyn cael ei ethol yn gymrawd o'i hen goleg yn Llundain. Yn hwyr yn ei oes derbyniodd lawer anrhydedd gan gynnwys yr F.R.C.P. (1942), D.Sc. (Cymru) er anrhydedd (1954), ond ymhell cyn hynny fe'i hetholwyd yn aelod anrhydeddus o sawl cymdeithas seicdreiddiol dramor.

Yn Chwefror 1917, priododd (1) â Morfydd Llwyn Owen, ond wedi ei marwolaeth hi ym Medi 1918; priododd (2) â Katherine Jökl o Vienna yn 1919.

Bu farw 11 Chwefror 1958, a llosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Golders Green, Llundain. Claddwyd ei ludw ym medd yr hynaf o'u pedwar plentyn yng nghladdfa eglwys Cheriton, Bro Gŵyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.