JONES-DAVIES, THOMAS ELLIS (1906 - 1960), meddyg a chwaraewr rygbi rhyng-genedlaethol

Enw: Thomas Ellis Jones-davies
Dyddiad geni: 1906
Dyddiad marw: 1960
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a chwaraewr rygbi rhyng-genedlaethol
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Megan Ellis

Ganwyd 4 Mawrth 1906, mab hynaf Henry a Winifred Anna Jones-Davies, Glyneiddan, Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ysgol St. George, Harpenden, coleg Gonville a Caius, Caergrawnt, ac ysbyty St. George, Llundain. Graddiodd yn M.A. a M.D. (Cantab), F.R.C.P. (Llundain) a D.P.H. (Llundain).

Bu'n swyddog meddygol cynorthwyol i gyngor sir Llundain am rai blynyddoedd cyn ei benodi'n swyddog meddygol (M.O.H.) dros sir Faesyfed yn 1938. Yn ystod Rhyfel Byd II gwasanaethodd fel swyddog yn y R.A.M.C., ac yn ddiweddarach penodwyd ef yn feddyg ymgynghorol, yn arbenigo yng nghlefydau'r galon, yn ysbyty gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin, swydd y bu ynddi am ddeng mlynedd, hyd ei farw.

Ymddiddorai mewn pob math o chwaraeon, gan gynnwys rygbi, tennis, criced, a hoci, ond fel canolwr ar y maes rygbi y daeth yn adnabyddus dros gylch eang. Chwaraeodd rygbi dros Brifysgol Caergrawnt a chlybiau Llanelli, Cymry Llundain, yr Ysbytai Unedig, swydd Middlesex, a'r Barbariaid. Dewiswyd ef i chwarae dros Gymru nifer o weithiau, a hefyd dewiswyd ef yn aelod o'r tîm Prydeinig a deithiodd i Seland Newydd ac Awstralia yn 1930.

Fel ei dad chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Gaerfyrddin. Dewiswyd ef yn uchel-sirydd yn 1952-53, a gwasanaethodd fel dirprwy raglaw ac ynad heddwch dros y sir. Bu'n llywydd cangen Caerfyrddin o'r Gymdeithas Ryddfrydol ac o'r Lleng Brydeinig.

Yn 1938 priododd â Nesta, unig ferch Dr. a Mrs. Hector Jones, Maesteg, a bu iddynt un mab. Bu farw 25 Awst 1960.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.