JONES, GWILYM CLEATON (1875 - 1961), rheolwr banc yn Cape Town a Johannesburg;

Enw: Gwilym Cleaton Jones
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1961
Priod: Alice Lilian Jones
Priod: Esther Anne Jones (née Davies)
Rhiant: Sarah Jones
Rhiant: John Eiddon Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rheolwr banc
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian
Awdur: Gwilym Arthur Jones

Ganwyd 25 Mawrth 1875 yn Llanrug, Sir Gaernarfon, yn ail fab John Eiddon Jones a Sarah Jones. Gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd y tad. Cefnogai D. Lloyd George ac mewn llythyr cydymdeimlad a anfonodd Lloyd George at ei weddw o'r National Liberal Club, 16 Hydref 1903, cydnabu'r gwladweinydd mai Eiddon Jones a ofynnodd gyntaf iddo sefyll etholiad bwrdeistrefi Arfon. Addysgwyd Cleaton Jones yn ysgol ramadeg y Bala. Llwyddodd yn arholiad rhagarweiniol yr Incorporated Law Society of England and Wales 1889. Erbyn 1893 yr oedd wedi dechrau gweithio gyda Chwmni Williams, Old Bank, Caer. Ymfudodd i Dde Affrig (Cape Colony ar y pryd) ym mis Tachwedd 1902 yn fuan ar ôl marw ei frawd hynaf, Eiddon Rhys, yr oedd ganddo feddwl uchel ohono. Ymunodd â'r National Bank of South Africa Ltd. Fe'i dyrchafwyd yn gyfrifydd a rheolwr y swyddfa yn Cape Town a symudodd i'r un swydd yn Johannesburg. Pan ymddeolodd ar 25 Mawrth 1936 ef oedd rheolwr cyffredinol cynorthwyol De Affrig yn Adran Dominion, Colonial and Overseas Banc Barclay. Ym mis Gorffennaf 1940 fe'i penodwyd gan y Llywodraethwr Cyffredinol yn drysorydd cenedlaethol mygedol y National War Fund. Yr oedd hefyd yn rheolwr cwmni Heynes Mathew Ltd. o 1937 hyd 1958. Gweithredai fel trysorydd mygedol Cape Western Regional Committee South African Institute of Race Relations. Ar bwys ei ddawn fel gweinyddwr a'i wybodaeth gyfreithiol fe'i gwahoddwyd i weithredu ar is-bwyllgor a godwyd i lunio cyfansoddiad Institute of Bankers South Africa. Daeth yn aelod o gyngor y corff hwnnw. Yr oedd yn Gymro twymgalon ac yn aelod blaenllaw o gymdeithasau Cymraeg Johannesburg, Pretoria a Cape Town. Fe'i hetholwyd yn aelod am oes o Gymdeithas Gymraeg Cape Town. Yr oedd yn amlwg yng nghylchoedd yr Eglwys Fethodistaidd a gweithredodd fel arolygwr ysgol Sul, athro, blaenor, ysgrifennydd a llywydd yr eglwys Gymraeg yn Cape Town. Dangosodd yr un gweithgarwch yn Johannesburg. Pregethai yn Gymraeg. Cefnogasai eisteddfod Cape Town o'i chychwyn. Urddwyd ef, o dan yr enw ' Ab Eiddon ', yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939 ac yr oedd yn un o islywyddion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Ei frawd ieuengaf oedd John David Rheinallt Jones ac yr oedd yn edmygydd brwd o'i lafur ef fel cyfarwyddwr y South African Institute of Race Relations. Yr oedd ganddo bedair chwaer. Priododd (1), Esther Anne Davies, Llandeilo, a ganwyd iddynt fab a phedair merch. Bu farw'r mab, yn Alecsandria, yr Aifft, 1941, ac yntau, ar y pryd, yn gapten yn y Transvaal Scottish Regiment. Ar ôl marw ei wraig yn 1940 priododd (2), Mrs Alice Lilian Williams, Johannesburg. Bu farw Cleaton Jones yn Cape Town 30 Medi 1961 ac amlosgwyd ei weddillion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.