Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES (TEULU), Cilie , Ceredigion Teulu o ofaint a ffermwyr, beirdd, cantorion a phregethwyr : amaethent ‘ Y Cilie ’, fferm o dros dri chan erw uwchben y môr rhwng Llangrannog a Cheinewydd, Cer. Gof oedd y tad, Jeremiah Jones (g. 9 Ebr. 1855 ; bu f. 19 Chwef. 1902 ), a hanai o deulu o ofaint yng ngogledd Penfro , teulu â chysylltiad agos, yn ôl traddodiad, â Beirdd Cwm-du , ger Castell Newydd Emlyn ( gw. Siencyn Thomas , Bywg. , 905 , a John Jenkin , Bywg. , 406 ). Daeth ef a'i briod Mary (g. George , 1853 - 1930 ), o deulu Georgeaid sir Benfro i gadw'r efail ym Mlaencelyn , plwyf Llangrannog , yn 1876 . Yno y ganed eu hwyth plentyn cyntaf; symudwyd i fferm ‘ Y Cilie ’ yn 1889 , a ganwyd y gweddill o'r deuddeg plentyn yno.

Ceir peth o ganu Jeremiah 'r tad yn Awen ysgafn y Cilie ( 1976 ). Dysgodd y bechgyn i gyd grefft y gof er mai ynglŷn â cheffylau a pheiriannau'r fferm y defnyddiwyd yr efail yn ‘ Y Cilie ’. Rhoes amryw o'r merched a'r bechgyn wasanaeth gwiw gyda chanu yng nghylch Capel-y-Wig , yn arbennig Tom , y trydydd, ac Ann , y chweched plentyn. Yr oedd y meibion eraill, ac eithrio Tom , sef Frederick , David (‘ Isfoel ’), John (‘ Tydu ’), Evan George (‘ Sioronwy ’), Simon Bartholomeus , ac Alun Jeremiah yn feirdd o fedr yn y mesurau caeth a rhydd, ac y mae llawer o'u gwaith ar gael (gw. isod). Ceir llawer o fân hanesion y teulu yn Ail gerddi Isfoel a hunangofiant byr ( 1965 ), ac yn Awen ysgafn y Cilie .



(1) FREDERICK ( Fred ; 1877 - 1948 ), gweinidog (A), llenor a chenedlaetholwr , oedd yr hynaf o'r plant; g. 29 Mai 1877 yn nhŷ'r efail , Blaencelyn . Wedi gadael ysgol Pontgarreg , bu'n gweithio yn yr efail ac ar y fferm gan fynd i ysgol diwtorial y Cei am ysbeidiau o 1897 i 1899 , pryd y cafodd fynd i Goleg Bala-Bangor ac i Goleg y Brifysgol ym Mangor i baratoi at waith y weinidogaeth; cymerodd raddau B.A. yn 1903 a B.D. (yn 1910 wedi mynd i'r weinidogaeth). Meysydd ei lafur gweinidogaethol oedd Moreia , Rhymni ( 1906-17 ); Bethania , Treorci ( 1917-27 ); Bethel , Tal-ybont, Cer. ( 1927-48 ). Bu'n amlwg yn sefydlu'r Cymrodorion yn Rhymni a Threorci ac ymddiddorai mewn materion cymdeithasol a'i bwyslais bob amser, ar lwyfan ac yn y wasg, ar barch at yr iaith Gymraeg a'r gwaith o'i gwarchod. Bu'n gynghorwr ar gyngor sir Ceredigion o 1927 hyd ei f. yn 1948 .

Perthynai i grŵp deheudir Cymru y rhai a fynnai sefydlu plaid wleidyddol i weithio dros ymreolaeth , ac yr oedd yn un o'r chwech a gyfarfu ym Mhwllheli a sefydlu'r Blaid Genedlaethol yn 1925 . Bu am gyfnod hir yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel ‘ Michael D. Jones ’, ‘ Brethyn cartre ’, ‘ Dysgwch y ddwy ’, a ‘ Daniel Owen ’. Darlithiai hefyd yn allanol dan y Brifysgol yn y Rhondda a Cheredigion . Daethai i amlygrwydd yn y coleg fel englynwr a chywyddwr , yn gwmnïwr ffraeth a diddan, a pharhaodd yn bregethwr gwreiddiol, grymus a dewr. Enillodd gadair Gwent yn 1913 am awdl ‘ Llywelyn ein llyw ola ’; beirniadai yn yr Eist. Gen.

Cyhoeddodd lyfryn ar yr Hen Destament , Llên a dysgeidiaeth cyfnod: I: Hanes Israel ( 1929 ); ysgrifennodd erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd ( 1926 ); gadawodd lawysgrif a gyhoeddwyd yn 1977 dan y teitl Hunangofiant gwas ffarm ; cyhoeddwyd drama fer o'i waith ‘ Y ngŵr i ’ yn Y Llenor , Hyd. 1926 , ac englynion a cherddi ysgeifn yn Awen ysgafn y Cilie , 1976 .

Pr. ddwywaith (1) yn 1906 , Maud , merch y Parch. a Mrs. E. H. Davies , Llan-non, Caerf. , a (2) Eunice , merch y Parch. a Mrs. D. Rhagfyr Jones , Treorci, Morg. Bu f. 2 Tach. 1948 .



(2) DAVID (‘ Isfoel ’; 1881 - 1968 ), y pedwerydd plentyn, g. yn nhŷ'r efail , 16 Meh. 1881 . Wedi marw y tad yn 1902 disgynnodd gwaith y fferm arno ef a'i fam. Yr oedd yn of a pheiriannydd dawnus. Yn ifanc daeth ‘ Dai Cilie ’ neu ‘ Isfoel ’ yn enw adnabyddus drwy'r cymdogaethau fel bardd a baledwr ac arweinydd eisteddfodau gyda'r ffraethaf. Yr oedd yn enillydd cyson mewn eisteddfodau ar englyn a chywydd a chân. Aeth ei englynion a phenillion ar achlysuron arbennig ar gof gwlad. Er y ffraethineb a'r cellwair a fynnai reoli ei ganu, cyfansoddodd gywyddau, telynegion ac yn arbennig englynion coffa â graen y meistr arnynt. Fe'i derbyniwyd yn dderwydd er anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd , ac enwodd yr annedd a gododd at ymddeol gyda'i briod Catrin (o Nanternis ) yn ‘ Derwydd ’. Bu iddynt un mab, a threuliasant y rhan helaethaf o'u hoes yn ardal Pontgarreg , Llangrannog . Bu Isfoel yn feirniad yn yr Eist. Gen. , a chyda'i frawd Alun bu'n hyfforddi cwmni dramaCilie-Crannog ’. Cyhoeddodd yn hydref ei fywyd rai cyfrolau: Cerddi Isfoel , 1958 ; Ail gerddi Isfoel a hunangofiant byr , 1965 ; Hen ŷd y wlad , 1966 ; a cheir peth o'i waith yn Awen ysgafn y Cilie , 1976 . Bu f. 1 Chwef. 1968 .


(3) SIMON BARTHOLOMEUS ( 1894 - 1964 ), yr ieuengaf ond un o'r plant, gweinidog (A), a bardd ; g. yn y Cilie , 5 Gorff. 1894 . Bu'n forwr yn ifanc, ond ar ôl torri ei goesau wrth syrthio i howld y llong ym mhorthladd Buenos Aires a bod am naw mis mewn ysbyty yno, dychwelodd i fferm y Cilie . Yna aeth i'r weinidogaeth drwy ysgol diwtorial y Ceinewydd , Coleg y Brifysgol , Bangor , a Choleg Bala-Bangor . Cafodd radd B.A. ar ôl torri ei gwrs pan fu gyda'r Y.M.C.A. yn ystod Rhyfel Byd I . Bu'n weinidog yn eglwysi Great Mersey Street , Lerpwl , 1922-27 , Creigfryn , Carno , 1927-32 , a Peniel ger Caerfyrddin , 1932-62 . Ymddeolodd ac aeth ef a'i briod (pr. 1923 , Annie , merch Mr. a Mrs. David Jones , ysgolfeistr Glynarthen ) i fyw i Lynarthen , lle y bu f. 27 Gorff. 1964 . Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, a chyfrifid ef yn artist o efengylydd; bu'n arwain cymanfaoedd canu pan oedd yn weinidog ieuanc. Hyfforddodd gwmni drama llwyddiannus iawn ym Mheniel , a bu'n beirniadu actio drama amryw droeon.

Barddonai 'n gyson o ddyddiau coleg hyd ei farw. Enillodd goron Eist. Gen. Wrecsam , 1933 , gyda phryddest ‘ Rownd yr Horn ’, a chadair Eist. Gen. Abergwaun , 1936 , gydag awdl ‘ Tyddewi ’, a mân wobrau eraill yn yr Eist. Gen. Beirniadodd droeon yn y brifwyl ac yr oedd yn brifardd yng Nghorsedd y Beirdd tan yr enw ‘ SB ’. Cyhoeddodd awdl arbennig iawn ‘ Yr unben ’, 1935 , a ddaethai i frig y gystadleuaeth unwaith, ac ar ôl ei f. cyhoeddwyd ei weithiau barddonol a pheth o'i ryddiaith yn Cerddi ac ysgrifau S. B. Jones ( 1965 ).

Llyfryddiaeth:

  • Gwybodaeth bersonol.

Awdur:

Y Parch Gerallt Jones (1907-84), Caerwedros, Ceinewydd.