JONES, JOHN CHARLES (1904 - 1956), Esgob Bangor

Enw: John Charles Jones
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1956
Priod: Mary Jones (née Lewis)
Plentyn: Ann Lewis (née Jones)
Rhiant: Rachel Jones
Rhiant: Benjamin Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Esgob Bangor
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd 3 Mai 1904, yn nawfed plentyn i Benjamin a Rachel Jones, Llan-saint, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac wedi graddio gyda dosbarth cyntaf mewn Hebraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, 1926, aeth ymlaen i Rydychen gydag ysgoloriaeth Hody i Goleg Wadham, lle'r enillodd y Junior LXX Prize ac ysgoloriaeth Pusey ac Ellerton 1927. Graddiodd yn B.A. 1928 gyda dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth, yn M.A. 1931, a chafodd radd D.D. (Lambeth) 1950. Dyfarnwyd ef yn ysgolor Kennicott yn 1928, a threuliodd sesiwn 1928-29 yn Wycliffe Hall, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan Esgob Tyddewi yn 1929, ac yn offeiriad 1930; bu'n gurad Llanelli 1929-33, ac Aberystwyth 1933-34 lle'r oedd i ofalu am fyfyrwyr. Yn 1934 aeth i'r maes cenhadol, i goleg coffa'r Esgob Tucker, Mukono, Uganda, yn diwtor mewn diwinyddiaeth, ac o 1939-45 ef oedd warden ac unig lywodraethwr y coleg. Yn 1941, gyda chymorth ei wraig (Mary, ferch William Lewis o Gaerfyrddin, nyrs wrth ei galwedigaeth), agorodd adran i hyfforddi gwragedd yr offeiriaid brodorol. Dychwelodd i Gymru yn 1945, yn ficer Llanelli; fe'i cadeiriwyd yn Esgob Bangor ŵyl Ystwyll 1949 - y tro cyntaf erioed i'r seremoni gael ei chynnal yn Gymraeg. Bu farw ym Mangor, ar ei ffordd adref o ysgol S. Winifred, Llanfairfechan, nos Sadwrn 13 Hydref 1956, a chladdwyd ef ym mynwent Llandysilio 18 Hydref Gadawodd weddw ac un ferch, Ann, gwraig Donald Lewis a benodwyd yn ficer Abertawe 1977.

I'r saith mlynedd y bu'n Esgob Bangor cywasgodd lafur a dylanwad oes. Daeth â bywyd newydd i'r esgobaeth, ac undod a chadernid na welwyd eu tebyg erioed o'r blaen. Yr oedd y plwyfi mwyaf diarffordd yn ei adnabod, ac yr oedd yn esgob i bawb, ' yn perthyn i ni gyd ', fel y dywedodd blaenor Methodist. Yn haf 1950 dilynodd mwy na phedair mil ef ar bererindod hyd ffordd y pererinion i Aberdaron. Yr oedd yr arddangosfa o drysorau eglwysi'r esgobaeth a gynhaliwyd ym Mangor 3-5 Mawrth 1953 yn gyfle i ddwyn pawb ynghyd yn ogystal ag i bwysleisio traddodiad ac etifeddiaeth a oedd yn ymestyn dros bedair c. ar ddeg. Ymgais i uno'r esgobaeth oedd y cylchgrawn chwarterol, Bangor Diocesan Gazette, a gychwynnodd yng Ngorffennaf 1954.

Byddai'n hedeg i'r Dwyrain Canol i ymweld â'r lluoedd arfog, ac yn 1954 cymerodd ran yng nghynhadledd fyd-eang yr eglwysi Cristnogol yn Evanston ac yng nghynhadledd yr esgobion anglicanaidd ym Minneapolis.

Nid yw'n hawdd i'r sawl na welodd y gŵr bychan, eiddil hwn, amgyffred ei ysbrydoliaeth dawel a chadernid ei ffydd a'i obaith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.