JOHN, Syr WILLIAM GOSCOMBE (1860 - 1952), cerflunydd

Enw: William Goscombe John
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1952
Priod: Martha John (née Weiss)
Rhiant: Elizabeth John (née Smith)
Rhiant: Thomas John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerflunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Paul Joyner

Ganwyd yng Nghaerdydd 21 Chwefror 1860, yn fab i Thomas John, Llantriddyd, Morgannwg, ac Elizabeth (ganwyd Smith) o Randwick, swydd Gaerloyw. Cerfiwr pren 3ydd Ardalydd Bute oedd ei dad a dechreuodd William ei gynorthwyo gyda'r gwaith cerfio yng nghastell Caerdydd yn 1874. Mynychodd Ysgol Gelf Caerdydd 1871-1881 a dysgodd anatomi o 1876 ymlaen gan James Philpotts, paentiwr cerbydau lleol. Bu John o dan ddylanwad yr amrywiol grefftwyr ardderchog a weithiai yng Nghaerdydd bryd hynny a chadwodd ei ddiddordeb mewn gweithiau llaw Cymreig. Yn 1913 awgrymodd y dylai Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasglu gweithiau celf a chrefftau'r werin. Aeth i Lundain yn 1881 i weithio o dan Thomas Nicolls hyd 1886. Astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Lambeth cyn mynd i ysgol yr Academi Frenhinol yn 1884. Arddangoswyd ei waith yn flynyddol yn yr Academi Frenhinol rhwng 1886 ac 1948. Enillodd fedal aur yn 1889 a'i galluogodd i deithio am gyfnod hir yn Ewrob a gogledd Affrica (c. 1890-91). Arhosodd ym Mharis yn 1891 lle bu'n astudio yn stiwdio August Rodin. Anrhydeddwyd ef gan Salon Paris pan roddwyd iddo fedalau aur yn 1892 ac 1901. Yn 1899 daeth yn A.R.A. a R.A. yn 1909. Priododd â Martha Weiss yn 1891 a bu iddynt un ferch.

Ar ôl dychwelyd i Lundain ni fu John fawr o dro cyn dod yn ffigur o bwys yn y Mudiad Cerflunio Newydd. Daeth yn gerflunydd cenedlaethol a rhyng-genedlaethol enwog a gyflawnodd lawer o weithiau comisiwn pwysig. Derbyniodd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, medal y Cymmrodorion, H.A.R.I.B.A. ac yr oedd yn aelod o amryw academïau Ewropeaidd. Ymhlith y gweithiau comisiwn pwysig Cymreig yr oedd addurn i allor eglwys S. Ioan, Caerdydd, a orffennwyd ym mis Hydref 1891. Yn 1892 archebodd 3ydd Ardalydd Bute ' Ioan Fedyddiwr ' ar gyfer Regent's Park, a gorffennwyd ef yn 1894. Cynlluniwyd y Corn hirlas i'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1898. Diau mai ei ddau waith Cymreig pwysicaf oedd regalia a medalau arwisgo Tywysog Cymru yn 1911, a'r sêl, trywel, gordd a lefel i osod sylfaen Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gwnaed ef yn farchog yn 1911 ac yn 1913-16 cafodd yr anrhydedd pennaf fel cerfluniwr Cymreig pan gomisiynwyd ef i wneud cerflun Dewi Sant i Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Adlewyrchir ei angerdd a'i ynni yn ei arddull rwydd, ddisglair. Gallai amrywio arddull ei gynlluniau ar gyfer portreadau, ffigurau ac arwyddluniau o ramantiaeth dull Rodin, clasuriaeth ofalus a Newydd-farô i arddull y Newydd-gothig a'r Adfywiad Celtaidd. Yr oedd yn artist gwirioneddol genedlaethol a fanteisiodd ar y cyfle i greu arddull a naws addas i'r ddinas newydd, a sefydliadau ac arwyr Cymru ar adeg pan oedd Cymru 'n deffro i'w hunaniaeth. Ceir llawer darn o'i waith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac y mae eraill yn yr Academi Frenhinol, Tate, a'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.