Penodwyd ef yn 1937 yn olygydd adran hanes a chyfraith Bwletin Bwrdd y Gwybodau Celtaidd , yn 1938 yn olygydd cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig ac ar farwolaeth Syr J. E. Lloyd yn 1947 yn gyd-olygydd â Syr William Llewelyn Davies (gw. uchod) . Cyhoeddwyd y gwaith ar y cychwyn yn Gymraeg yn 1953 a phan ymddangosodd y fersiwn Saesneg yn 1959 , gan gynnwys llu o gywiriadau ac ychwanegiadau, ef oedd yr unig olygydd . Eisoes cyflawnodd gymwynas sylweddol ag Anrh. Gymd. y Cymmr. a noddodd yr anturiaeth, oblegid, gyda Helen Ramage , paratôdd A History of the Honourable Society of Cymmrodorion i ddathlu'r dau canmlwyddiant yn 1951 . Bu'n Warden Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru o 1940 hyd 1943 ac yn aelod o gynghorau 'r Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol . Dyfarnwyd iddo radd D.Litt. Prifysgol Cymru yn 1939 a LL.D. honoris causa (Cymru) yn 1956 . Yn 1953 anrhydeddwyd ef â Medal Aur Anrhydeddus Gymd. y Cymmr. ac â'r C.B.E. yn 1956 .
Gŵr amlochrog ydoedd R.T. Jenkins a'i ddiddordebau'n ymestyn i amryfal gyfeiriadau, gan gynnwys diwinyddiaeth a phensaernïaeth . Yr oedd Ffrainc bob amser yn agos iawn at ei galon ac mor gynnar ag 1922 , mewn erthygl yn Y Llenor , cyfeiriodd sylw ei gyd- Gymry at ysgrifenwyr yr adwaith Catholig yn Ffrainc . Tramwyodd dir Ffrainc droeon ac ymserchodd yn ei dyffrynnoedd ffrwythlon a'i threfi bychain castellog, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceid olion amlycaf gwareiddiad Rhufain a'r Oesoedd Canol. Ond prin iawn ydoedd ei ddiddordeb yn Llydaw ac ystyriai syniadau Pan-Geltaidd yn ffug. Erys Ffrainc a'i phobl yn rhagymadrodd tra darllenadwy i'r Cymro Cymraeg a fyn ddeall seiliau gwareiddiad Ffrainc . Yr oedd ganddo gof anghyffredin (‘glydiog’, meddai ef ei hun) ond nis traflyncwyd gan yr wybodaeth fanwl a oedd ar flaenau ei fysedd. Yn wir, nid oedd yn or-hoff o aparatws ffurfiol dysg, oherwydd anelai yn ei lyfrau at gylch ehangach o ddarllenwyr na mintai o ysgolheigion ac yr oedd yn amharod i fyddaru'r darllenydd cyffredin, deallus â gormod o'r troednodiadau hynny sy'n ganllawiau i ysgolheigion eraill. Ar y cyfan, eithriad yn hyn o beth yw The Moravian brethren in north Wales ( 1938 ), ond sydd eto'n llyfr pur ddarllenadwy. Ei brif amcan ydoedd darganfod y dyn unigol yn ei gefndir a chloriannu'r syniadau a'r cymhellion a'i hysgogodd i weithredu fel y gwnaeth mewn hindda ac mewn adfyd. Cywasgai ei sylwadau treiddgar i baragraffau byr lle byddai eraill yn amlhau geiriau am dudalennau lawer. (Ystyrier, er enghraifft, ei ymdriniaeth o geidwadaeth yn Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ( 1933 ), tt. 29-32, neu o'r gwahaniaeth rhwng yr hen Sentars a'r Methodistiaid yn Yng nghysgod Trefeca ( 1968 ), tt. 22 ymlaen.) Fel Syr J. E. Lloyd , a edmygai gymaint, yr oedd ganddo wybodaeth drylwyr o dir a daear Cymru , ac ar droed, mewn bws neu gar cyfaill mesurai fesul pibellaid y teithiau a roes sylfaen mor gadarn i'w astudiaethau hanesyddol. Ac er mai ar gyfer plant yr ysgrifennwyd Y ffordd yng Nghymru ( 1933 ) anodd cael gwell rhagymadrodd i hanes Cymru . Llwyddodd i gyflwyno rhin a sawr y canrifoedd, ond ei briod faes oedd y ddeunawfed g., a Methodistiaeth yn arbennig. Yr oedd yn ddigon agos at y rhyferthwy hwnnw i amgyffred y grymusterau tanllyd a ryddhawyd gan un diwygiad ar ôl y llall ac eto'n ddigon diduedd a chadarn ei farn i ymwrthod â'r hen ragfarnau enwadol a wenwynodd hanes crefydd yng Nghymru hyd ei ddyddiau ef. Nid rhyfedd mai'r Methodist hwn a ddewiswyd i ysgrifennu'r llyfr rhagorol, Hanes cynulleidfa hen gapel Llanuwchllyn ( 1937 ). Cymharwyd ef â Macaulay , J. R. Green a Maitland , ac er fod llygedyn o wir yn mhob un o'r cymariaethau hyn, ei ddelfryd ei hun oedd G. M. Trevelyan . Eithr yn y bôn yr oedd yn unigryw ac yng Nghymru ni chafwyd ei hafal. Na ddibrisier ychwaith ei waith, ynghyd â William Rees (ei gyn-ddisgybl yn Aberhonddu ), yn paratoi The bibliography of the history of Wales ( 1931 ), nac ar unrhyw gyfrif ei ymroddiad diarbed i'r Bywgraffiadur . Yn ogystal â'r dyletswyddau golygyddol cyfrannodd oddeutu chwe chant o erthyglau, ac mae'r gyfrol Gymraeg a'r un Saesneg yn llusern i'n traed.
Ymddangosodd nifer o ysgrifau yn Casglu ffyrdd ( 1956 ), Ymyl y ddalen ( 1957 ), Yng nghysgod Trefeca ( 1968 ) a Cyfoedion ( 1974 ). Dichon mai'r ysgrif ydoedd y ffurf lenyddol a garai fwyaf, a hwyrach fod ei ddull ymgomiol, y cromfachau a'r italeiddio'n gweddu'n fwy priodol i'r ysgrif nag i ffurfiau llenyddol eraill. Yn ystod Rhyfel Byd II argyhoeddwyd ef mai ei ddyletswydd ydoedd darparu llenyddiaeth ysgafn ar gyfer y cyhoedd yn hytrach nag astudiaethau ysgolheigaidd. Cydweithredodd yn hapus iawn a D. R. Hughes (gw. uchod) ac eraill i baratoi misolyn, Cofion Cymru , a ddosbarthwyd yn rhad i Gymry Cymraeg a wasanaethai yn y lluoedd arfog ledled y byd er mwyn iddynt gadw cysylltiad â Chymru a'u treftadaeth. Credai iddo gyfrannu i bob cyfrol o'r Cofion , ac ymddangosodd ei straeon byrion o dan yr enw Idris Thomas , yr enw a fabwysiadodd hefyd i guddio'i awduraeth o Ffynhonnau Elim ( Llyfrau'r Dryw , 1945 ), lle mae'r ymddiddan yn nhafodiaith y de. Ei nofel arall ydoedd y campwaith godidog, Orinda ( 1943 ), sy'n ail-greu awyrgylch cythryblus y Werinlywodraeth a'r Adferiad a'u heffaith ar gymrawd o Goleg yr Iesu . Ychydig cyn ei farw, ymddangosodd cyfrol o'i atgofion hyd 1930 , Edrych yn ôl ( 1968 ), ond odid yr hunangofiant difyrraf a luniwyd erioed yn Gymraeg . Fel athro ysgol a darlithydd yr oedd yn ddigyffelyb; ohono ffrydiai dysg yn gymysg a hiwmor’ ac enillodd serch ei fyfyrwyr, ‘fy nghyfeillion iau’. Ym Mangor y treuliodd y rhan helaethaf o'i fywyd; yno y gorffennodd ei ‘berffaith fyfyrdod’ ac yno y mae'r atgof amdano bereiddiaf. Bu f. 11 Tach. 1969 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bangor . Fel canlyniad i apêl genedlaethol, sefydlwyd Darlith goffa R. T. Jenkins yn y coleg yn 1972 .
Pr. ddwywaith, yn 1907 â Mary Davies , Aberystwyth (a fu f. yn 1946 ) ac yn 1947 â Myfanwy Wyn Williams , Aberdâr .
Yr Athro John Gwynn Williams, M.A., Caerlleon Fawr / Bangor