Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



HUMPHREYS , EDWARD MORGAN ( 1882 - 1955 ), newyddiadurwr, llenor a darlledwr ; g. 14 Mai 1882 yn Nyffryn Ardudwy, Meir. , mab hynaf John ac Elizabeth Humphreys . Enwau ei frodyr oedd Humphrey Llewelyn a John Gwilym . Yr oedd ei fam yn nith i Edward Morgan ( 1817 - 1871 ; Bywg. , 604) , Dyffryn , pregethwr (MC) ac ysgrifennwr gwreiddiol, ac yn gyfnither i R.H. Morgan ( Bywg. , 611) , Porthaethwy , arloeswr llaw-fer yn Gymraeg . Hen daid iddo oedd Richard Humphreys ( Bywg. , 375) , pregethwr (MC) ffraeth, dirwestwr ac arloeswr addysg . Addysgwyd E.M. H. yn ysgolion sir y Bermo a Phorthmadog . Rhoes ei fryd ar fod yn gyfreithiwr a chychwynnodd ar yrfa felly ym Mhorthmadog ond oherwydd cyflwr ei iechyd rhoes y gorau iddi a dychwelyd adref i'r Faeldref , Dyffryn Ardudwy , lle'r oedd ei dad yn amaethu . Symudodd y teulu i Lerpwl . Yno y dechreuodd y mab ysgrifennu ac ymddiddori mewn newyddiaduraeth . Ymunodd â'r Barmouth Advertiser yn 1904 fel gohebydd . Wedi cyfnod byr ar staff un o bapurau Runcorn cafodd brofiad o ddilyn cyfarfodydd Evan Roberts y Diwygiwr (gw. isod) fel gohebydd y Liverpool Courier . Ymddangosodd ei argraffiadau hefyd yn Y Genedl Gymreig . Daeth yn gyfeillgar â'r efengylydd ond ni ddwysbigwyd ef gan wres y diwygiad. Buasai hefyd yn ohebydd Bangor i'r North Wales Observer o dan olygyddiaeth William Eames . Pan ymunodd Eames (gw. uchod) â staff isolygyddol y Manchester Guardian yn 1908 gwahoddwyd E.M. H. i'r swyddfa yng Nghaernarfon a daeth yn olygydd Y Genedl Gymreig a'r newyddiadur Saesneg . Dyma'r adeg y daeth yn gyfaill i T. Gwynn Jones ( Bywg. 2, 33-4) a weithiai ar y pryd yn yr un swyddfa. Ysgrifennodd gryn dipyn o farddoniaeth Saesneg (gan gynnwys sonedau) ac ambell gerdd yn Gymraeg . Ym mis Ion. 1908 etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Fabian Caernarfon . Cafodd gyfnod byr fel golygydd Cymru ac ar ddau achlysur eisteddai yng nghadair olygyddol Y Goleuad . Dychwelodd at Y Genedl yn 1918 gan barhau'r cysylltiad hyd 1930 pan ymddiswyddodd a mynd yn ysgrifennwr annibynnol . Cyfrannodd erthyglau rheolaidd i'r Liverpool Daily Post o dan y ffugenw ‘ Celt ’ o 1919 ac yn 1927 daeth yn ohebydd arbennig y Manchester Guardian gan gyfrannu'n ddi-fwlch adroddiadau am yr Eist. Gen. a materion eraill yn ymwneud â Chymru . Yr oedd yn eisteddfodwr selog ac ni chollodd yr un brifwyl rhwng 1919 ac 1953 . Buan yr enillodd ei blwyf fel darlledwr ar bwys ei ddawn ymadrodd a'i lais soniarus. Er gwaethaf iechyd bregus yr oedd yn weithiwr diwyd a threfnus a chyfrannodd nifer o erthyglau i'r Bywg. Ef a ddarganfu ddawn storïol W.J. Griffith , Henllys Fawr ( Bywg. , 282-3) . Rhwng 1939 ac 1949 bu'n swyddog gweinyddol cynorthwyol gyda'r Pwyllgor Amaethyddol yn sir Gaernarfon . Yn ei oriau hamdden fe barhâi i lenydda a darlithio . Bu'n diwtor Addysg y Gweithwyr . Derbyniodd radd M.A. (Cymru) er anrh. yn 1927 a'r O.B.E. yn 1953 . Yr oedd yn un o is-lywyddion Anrh. Gymd. y Cymm. , yn aelod o banel Cymru o'r Cyngor Prydeinig ac o'r Royal Cambrian Academy of Art . Nid oedd yn amlwg yng nghylchoedd cyfundebol Eglwys Bresbyteraidd Cymru ond fe roddai bwys mawr ar urddas y pulpud a chas ganddo oedd anhrefnusrwydd. Yn Engedi , Caernarfon , yr oedd yn aelod, a daeth yn ffigur adnabyddus yn y dref oherwydd yr olwg urddasol a oedd arno. Yr oedd yn gwmnïwr diddan ac yn ddarllenwr eang. Pr. Annie Evans , merch E.J. Evans , cynweinidog eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Walton Park , Lerpwl . Ni bu ganddynt blant. Enillodd gyfeillgarwch rhai o flaenorwyr y genedl ac yr oedd gan D. Lloyd George ( Bywg. 2, 39-40) feddwl uchel o'i farn. Mwynhaodd R.T. Jenkins (gw. isod) ‘chwarter canrif o gyfeillgarwch pur’ ag ef.

Yr oedd yn un o arloeswyr y nofel ddirgelwch yn y Gymraeg a meddai ar y ddawn i lunio erthyglau bywgraffiadol craff. Cyhoeddodd Dirgelwch yr anialwch ( 1911 ), Rhwng rhyfeloedd (d.d.); Yr etifedd coll (d.d.); Y llaw gudd ( 1924 ); Cymru a'r wasg ( 1924 ); Dirgelwch Gallt y Ffrwd ( 1938 ); Detholiad o lythyrau'r hen ffarmwr ( 1939 ); D. Lloyd George ( 1943 ); Ceulan y Llyn du ( 1944 ); Y wasg yng Nghymru ( 1945 ); Gwŷr enwog gynt , 1 ( 1950 ); Profiadau golygydd ( 1950 ); Gwŷr enwog gynt , 2 ( 1953 ); a Gorse glen (cyf. o Cwm Eithin Hugh Evans , 1948 ). Gŵr annibynnol ydoedd a brwydr ddiorffwys ag afiechyd fu ei fywyd. Ysgrifennai'n gyflym a chryno yn Gymraeg a Saesneg . Fel y sylwodd John Eilian amdano, ‘ cariad cywir cynnes at y wlad hen y gallai ei synhwyrau ei hamgyffred-cyffro Eryri , hedd Meirionnnydd a sŵn y gorllewinfôr ’, dyna oedd gwladgarwch iddo. Bu f. 11 Meh. 1955 yng Nghaernarfon . Un arall o'i gyfeillion a weinyddai yn ei gynhebrwng, sef D. Tecwyn Evans (gw. uchod) . Claddwyd ei weddillion ym mynwent y dref.

Llyfryddiaeth:

  • Y Genedl , 23 Mai 1905 , 21 Ion. 1908 , 19 Ion. a 9 Chwef. 1925 ;
  • Baner ac Amserau Cymru , 15 Meh. 1955 ;
  • Y Cymro , 16 Meh. 1955 ;
  • Yr Herald Cymraeg (a'r Genedl) , 13 Meh. 1955 ;
  • The Times ,
  • Manchester Guardian ,
  • The Liverpool Daily Post ;
  • Y Traethodydd , Hyd. 1955 ;
  • Y Genhinen , 1954-5 , 1962-3 ;
  • Y Llenor , 10, 1931 ;
  • Llawysgrifau E. Morgan Humphreys yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, rhifau 15747-65;
  • gwybodaeth gan R. Maldwyn Thomas .

Awdur:

Gwilym Arthur Jones, (1925-98), Bangor